Skip to content

Gwaith ieuenctid

Dolenni perthnasol

Mae Llywodraeth Cymru’n awyddus i gael barn pobl ynghylch cynigion newydd i gefnogi’r gwaith o ddatblygu Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer Gwaith Ieuenctid.

Mae cymeriad unigryw gwaith ieuenctid wedi'i seilio ar berthynas wirfoddol rhwng pobl ifanc a gweithwyr ieuenctid.

Mae'r Gwasanaeth Ieuenctid yng Nghymru yn wasanaeth sydd ar gael i bob person ifanc rhwng 11-25 oed.

Yn y ddogfen Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid (2012), nodwyd mai prif bwrpas gwaith ieuenctid yw:

‘galluogi pobl ifanc i ddatblygu mewn ffordd gyfannol, gan weithio gyda hwy i hybu eu datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol, i'w galluogi i feithrin eu llais a chwarae rhan mewn cymdeithas a chyrraedd eu potensial llawn.’

Darperir y gwasanaeth ieuenctid drwy'r sector gwirfoddol a'r awdurdodau lleol a thrwy amryw leoliadau a dulliau.

Beth yw gwaith ieuenctid?

Mae gwaith ieuenctid addysgol da sydd heb fod yn ffurfiol yn cynnig ymyriadau brwd ar gyfer pob person ifanc a'i bwrpas yw darparu amgylcheddau effeithiol lle y gall pobl ifanc ddysgu a datblygu. Gall gwaith ieuenctid chwarae rhan bwysig o ran arfogi a helpu pobl ifanc i lwyddo yn eu haddysg ffurfiol. Mae gwaith ieuenctid yng Nghymru yn cynnig cyfleoedd dysgu sydd yn addysgol, yn fynegiannol, yn gyfranogol, yn gynhwysol ac yn rymusol.

Lluniwyd Youth Work in Wales: Principles and Purposes (dolen allanol) gan gynrychiolwyr o’r sector gwaith ieuenctid gwirfoddol a sector gwaith ieuenctid yr awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae'n amlinellu'r egwyddorion allweddol sydd wrth wraidd gwaith ieuenctid ac yn darparu trosolwg o'i natur, ei ddibenion a'r modd y caiff ei ddarparu yng Nghymru.

Cymwysterau gwaith ieuenctid

Mae gwaith ieuenctid yn broffesiwn unigryw sydd â'i fframwaith cymwysterau ei hun fel rhai’r athrawon a’r gweithwyr cymdeithasol.

Y Cydbwyllgor Negodi (JNC) ar gyfer Gweithwyr Ieuenctid a Chymunedol yw'r corff sy'n gosod y fframwaith cenedlaethol a ddefnyddir i raddio a thalu swyddi gwaith ieuenctid. Mae'r Cydbwyllgor Negodi hefyd yn cydnabod cymwysterau gweithwyr ieuenctid a chymunedol sydd wedi'u cymeradwyo'n broffesiynol gan Safonau Addysg a Hyfforddiant (ETS) Cymru. Mae gan ETS Cymru restr o'r holl gyrsiau ardystiedig ar ei wefan (Dolen allanol).  

Mae ennill cymhwyster sydd naill ai wedi'i ardystio neu ei ddilysu gan ETS Cymru ac wedi'i gydnabod gan y Cydbwyllgor Negodi yn sicrhau ei fod yn addas at y diben ac yn datblygu gweithwyr ieuenctid i ddiwallu anghenion pobl ifanc.

I ddysgu mwy am hyfforddiant yng Nghymru, cysylltwch â:

ETS Cymru d/o Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru,
Tŷ'r Llywodraeth Leol,
Drake Walk,
Caerdydd
CF10 4LG.
Ffôn: 029 20468687
E-bost: elizabeth.rose@wlga.gov.uk
Gwefan (Dolen allanol).

Mae coleg cymunedol YMCA Cymru wefan hefyd yn cynnig nifer o gyrsiau gwaith ieuenctid Lefel 2 a 3 ar draws Cymru.

Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Gwasanaeth Ieuenctid Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo yn y Rhaglen Lywodraethu i ddiweddaru’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Gwasanaeth Ieuenctid Cymru. Cynhaliwyd ymgynghoriad ar strategaeth gwaith ieuenctid cenedlaethol newydd i Gymru. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 16 Medi 2013.