Skip to content

Gwaith ieuenctid

Dolenni perthnasol

Caiff gwaith ieuenctid ei ddarparu gan y gwasanaeth ieuenctid statudol a gwirfoddol yng Nghymru drwy berthynas wirfoddol rhwng pobl ifanc a gweithwyr ieuenctid.

Mae gwaith ieuenctid yn ymwneud ag addysg a datblygu personol a chymdeithasol pob ifainc rhwng 11 a 25 oed, yn enwedig y rheini sydd rhwng 13 a 19 oed.

Mae Gwasanaeth Ieuenctid yng Nghymru yn cael ei ddarparu trwy:

  • 22 awdurdod lleol
  • prif fudiadau gwirfoddol
  • brosiectau lleol annibynnol.

Beth ydy'r gwaith ieuenctid?

Mae gwaith ieuenctid yn nodweddiadol gan y canlynol:

  • cyfranogiad gwirfoddol pobl ifanc
  • yn oedran-benodol, gan ganolbwyntio ar bob ifanc rhwyng 11 a 25 mlwydd oed
  • agwedd anffurfiol tuag at addysg
  • yn cael ei symbylu gan agwedd pobl-ifanc-yn-flaenaf
  • dull gweithredu unffurf.

Cymwysterau ar gyfer gwaith ieuenctid

Galwedigaeth ar wahân yw gwaith ieuenctid ac mae iddo ei gymwysterau ei hun fel rhai'r athrawon a'r gweithwyr cymdeithasol. Datganiad y Cwricwlwm sy'n cyfeirio gwaith y Gwasanaeth Ieuenctid Iedled Cymru ac mae'n rhan annatod o'r gweithgareddau. Mae'r Llwydodraeth Cymru wedi disgrifio ei gweledigaeth ar gyfer y Gwasanaeth Ieuenctid mewn Strategaeth cenedlaethol a lansiwyd ym Mawrth 2007.

Strategaeth Gwasanaeth Ieuenctid Cenedlaethol ar gyfer Cymru

Mae Strategaeth Gwasanaeth Ieuenctid Cenedlaethol ar gyfer Cymru yn:

  • cynnig gweledigaeth ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru
  • disgrifio sut i nodi'r staff, y strwythur a'r adnoddau sydd eu hangen er mwyn gwireddu'r weledigaeth honno
  • paratoi cynllun gweithredu i sicrhau y gall gwaith ieuenctid gyfrannu'n effeithiol i Ymestyn Hawliau.