Skip to content

Rhianta a gofal plant

Dolenni perthnasol

Diben y canllaw hwn yw helpu awdurdodau lleol ac asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol i deall y gyfraith fel y mae'n berthnasol i fabwysiadu trawswladol yng Nghymru.
Mae’r daflen hon yn eich cyfeirio tuag at y grantiau a’r arian sydd ar gael i’ch helpu chi i drefnu cyllideb y teulu a rhoi gwybodaeth.
Mae’r daflen hon yn ymgeisio i ddangos rhai o’r gwahaniaethau rhwng ymddygiad arferol plant a phan fo problemau mwy difrifol.
Mae pob rhiant yn gwybod am yr amserau da gyda’u plant, ond efallai fod bywydau prysur heddiw yn eu gwneud yn galetach i’w gweld.
Ffynonellau data sydd i'w cael ar blant a phobl ifanc i gefnogi'r gwaith o fonitro Nod Craidd 1.

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi rhieni ac er mwyn cyflawni hyn, rydym yn ariannu nifer o gynlluniau.

Nod Craidd 1

Nod Craiff 1 yw dylai bod pob plentyn yn cael dechrau teg mewn bywyd a'r sail orau bosibl ar gyfer eu twf a'u datblygiad yn y dyfodol.

Mae awdurdodau lleol a gwasanaethau iechyd, y sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol yn darparu rhwydwaith o wasanaethau sy'n cefnogi teuluoedd a chanddynt blant ifanc.

Ymyriadau priodol

Gall ymyriadau priodol yn ystod y cyfnod cynnar fod ymhlith y rhai mwyaf effeithiol o ran cyfleodd bywyd yn y dyfodol. Mae pethau'n arbennig o bwysig yn cynnwys:

  • gofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel
  • hybu iechyd/addysg dda ymhlith rhieni
  • darparu gwybodaeth i rieni.

Cymorth

Trwy Cymorth, y Gronfa Cymorth i Blant a Phobl Ifanc, rydym yn annog darparu rhaglenni i roi cefnogaeth i rieni. Un o brif themâu’r rhaglen yw 'Cefnogi Teuluoedd'. Ei nod yw sicrhau bod cefnogaeth ar gael i deuluoedd a fydd yn arwain at feithrin perthynas gadarnhaol rhwng rheini a’u plant.