Skip to content

Rhianta

Dolenni perthnasol

Arweiniad cyflawn i feichiogi, geni a’r wythnosau cyntaf gyda’ch babi newydd.
Gweithio i sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd ar gyfer eu twf a’u datblygiad yn y dyfodol.
Mae GGD yn rhoi gwybodaeth a chyngor am wasanaethau leol i bobl ifanc 0-25 oed, o ofal plant i weithgareddau gwyliau.

Mae pum mlynedd gyntaf bywyd eich plentyn yn darparu'r sylfaen ar gyfer ei iechyd a'i les yn y dyfodol. Hyd yn oed cyn i'ch plentyn gael ei eni, bydd yr hyn rydych yn ei fwyta, a ydych yn smygu neu'n yfed alcohol, ac a ydych yn edrych ar ôl eich hiechyd chi'ch hun, yn cael effaith ar ei ddatblygiad.

Rhianta

Mae rhianta da yn gallu cael effaith benodol ar sawl canlyniad allweddol:

  • y berthynas rhwng y rhiant a'r plentyn
  • ymddygiad sy'n effeithio ar iechyd
  • llwyddiant addysgol a’r nifer sy'n rhoi’r gorau i addysg.

Arferion am oes

Bydd rhoi bwyd a diodydd iach iddynt o'r cychwyn cyntaf yn eu helpu i dyfu fyny'n gryf ac yn iach, a gall hefyd eu helpu i feithrin arferion bwyta iach a fydd yn parhau gydol eu hoes. Mae plant yn dysgu drwy efelychu eu rhieni. Felly, os ydych chi'n byw bywyd iach, yn bwyta'n dda a ddim yn smygu, mae'n debygol y bydd eich plentyn yr un peth pan fydd yn hŷn.

Rhagor o wybodaeth

Os hoffech drafod unrhyw beth yn fwy manwl, cofiwch fod eich bydwraig, eich ymwelydd iechyd a'ch meddyg teulu ar gael i'ch helpu i roi'r dechrau gorau posibl i'ch plentyn mewn bywyd. Gallant hefyd roi gwybod i chi beth sy'n digwydd yn eich ardal i gefnogi rhieni sydd â phlant o'r un oed â'ch plentyn chi.

Hawliau mamolaeth ac absenoldeb rhiant

Ewch i wefan Directgov i ddysgu am eich hawliau mamolaeth ac absenoldeb rhiant.