Skip to content

Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD)

Dolenni perthnasol

Mae’r daflen hon yn eich cyfeirio tuag at y grantiau a’r arian sydd ar gael i’ch helpu chi i drefnu cyllideb y teulu a rhoi gwybodaeth.
Gall credydau treth a thalebau gofal plant helpu i wneud gofal plant yn fwy fforddiadwy.
Os nad ydych wedi cael LCA erioed o’r blaen, efallai byddwch chi’n gymwys am Lwfans Cynhaliaeth Addysg o £30 os ydych yn 16, 17 neu 18 oed ar 31 Awst 2011.

Y Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD) yw’r man cyswllt cyntaf am wybodaeth a chyngor i deuluoedd a gofalwyr. 

Logo Y Gwasanaeth Gwybodaeth i DeuluoeddMae GGD ar gael ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. Maent yn cynnig help a chymorth rhad ac am ddim i unrhyw un sy’n magu plant, o rieni newydd i rieni profiadol â phlant sydd wedi tyfu.

Gallant eich rhoi mewn cysylltiad ag arbenigwyr a fydd yn gallu rhoi cyngor cyfeillgar i chi ar faterion amrywiol fel gofal plant, gofal iechyd, cyngor ar hyfforddiant, gwasanaethau hamdden a llawer mwy.

Y tro nesaf y byddwch chi am ofyn cwestiwn am unrhyw beth yn ymwneud â’ch bywyd teuluol, cysylltwch â nhw yn y lle cyntaf ar 0300 123 7777.

I ddod o hyd i’ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol, cliciwch ar eich ardal chi o Gymru  o’r rhestr ar y chwith.