Skip to content

Dechrau'n Deg

Dolenni perthnasol

Mae lleihau tlodi, yn arbennig tlodi cyson, yn rhai o'n hardaloedd a'n cymunedau tlotaf yn ganolog i agenda polisi Llywodraeth Cymru.
Mae Canllawiau Strategol Dechrau’n Deg yn diweddaru ac yn datblygu canllawiau Dechrau’n Deg blaenorol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.
Mae ein saith nod craidd ar gyfer plant a phobl ifanc yn crynhoi Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ac yn sail i benderfyniadau ar flaenoriaethau ac amcanion yn genedlaethol.

Dechrau’n Deg yw rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar. Mae wedi’i hanelu at deuluoedd sydd â phlant o dan 4 oed ac sy’n byw mewn rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Dechrau'n Deg

Mae Dechrau’n Deg yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddyblu nifer y plant a’u teuluoedd sy’n elwa ar y rhaglen - sef cynnydd o 18,000 i 36,000. Er mwyn helpu i wneud hynny, rydyn ni wedi neilltuo £55 miliwn dros y tair blynedd nesaf.

Sut mae Dechrau’n Deg yn gweithio?

Mae elfennau craidd y rhaglen wedi’i seilio ar amrywiaeth o bethau y profwyd eu bod yn helpu i wella sefyllfa plant a’u teuluoedd. Ymhlith y rhain mae:

  • Gofal plant rhan amser o safon am ddim i blant 2-3 oed.
  • Gwasanaeth Ymweliadau Iechyd gwell.
  • Mynediad at Raglenni Rhianta.
  • Datblygu Iaith yn Gynnar

Mae’r rhaglen ar gael i bob plentyn cymwys a’i deulu yn yr ardaloedd perthnasol.

Os hoffech wybod mwy am Dechrau’n Deg yn eich ardal, cysylltwch â’r Cydgysylltydd Dechrau’n Deg yn eich awdurdod lleol.

Bydd manylion am y rhaglen ar gael ar wefan eich awdurdod lleol.  I gael mwy o wybodaeth am y rhaglen Dechrau’n Deg, cysylltwch â flying.start@wales.gsi.gov.uk