Skip to content

Genesis Cymru 2

Logo Genesis 2
Mae Cynllun Genesis Cymru Wales yn gallu gweithio’n agos gyda phobl, a chynnig cymorth ariannol a mathau eraill o gymorth hefyd.

Mae Genesis Cymru 2 yn mynd i'r afael â rhwystrau fel:

  • diffyg cymorth ar gyfer gofal plant;
  • hygyrchedd trafnidiaeth;
  • dyled;
  • camddefnyddio alcohol a chyffuriau; a
  • chyflyrau iechyd sy'n cyfyngu ar allu pobl i weithio.

Mae e'n cynnig cymorth hefyd trwy bethau fel cynlluniau meithrin hyder a hyfforddiant i baratoi at waith.

Bydd hyn yn fodd i’r bobl cael llwybr at waith, hyfforddiant neu gyfleoedd dysgu. Bydd y Cynllun yn helpu pobl i gynllunio dyfodol gwell hefyd, gyda chymorth gan ymgynghorwr. Bydd hwn yn codi hyder a hunan-barch pobl, a’u helpu i wireddu’u breuddwydion.

Mathau o gymorth

Dyma rai o’r mathau o gymorth sydd ar gael:

  • ymgynghorwyr
  • cymorth gofal plant rhad ac am ddim neu wedi’i ariannu’n rhannol
  • cymorth i ddechrau hyfforddiant
  • pecynnau cymorth pwrpasol
  • mentora
  • cyfleoedd ar gyfer gwirfoddoli/profiad gwaith
  • ymweliadau cartref a chymorth grŵp.

Rhagor o wybodaeth

Ebost: genesiswales2@cymru.gsi.gov.uk

Neu cysylltwch â'ch cydgysylltydd Genesis lleol drwy eich awdurdod lleol.