Skip to content

Ymestyn Hawliau – Creu Gweledigaethau o Ymarfer Effeithiol i Bobl Ifanc Yng Nghymru (Awst 2004)

Mae’r adroddiad hwn wedi ei gomisiynu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn gam cyntaf mewn proses barhaus o werthuso effeithiolrwydd y cynigion a gynhwysir yn “Ymestyn Hawliau: cefnogi pobl ifanc yng Nghymru.” Bydd yr ymchwil yn chwilio am atebion i bedwar cwestiwn allweddol;

  • A yw holl bobl ifanc Cymru yn defnyddio eu hawliau cyffredinol ac os nad ydynt, pa garfanau o bobl ifanc sydd ar eu colled, a pham ?
  • Beth yw’r rhwystrau mae rhai pobl ifanc yn eu hwynebu o ran byw bywyd llawn a gweithgar yn awr ac yn y dyfodol, a sut gellir eu goresgyn?
  • A yw pobl ifanc yn derbyn y gwasanaethau uchel eu hansawdd y mae eu hangen a’u heisiau arnynt ac y maent yn eu haeddu, ac a yw’r sgiliau a’r
    adnoddau ganddynt i geisio adnabod eu hanghenion a’r gwasanaethau ac i asesu eu heffeithiolrwydd?
  • A yw pobl ifanc yn derbyn y gefnogaeth angenrheidiol i gael mynediad at y gwasanaethau ansawdd uchel hyn?

Llwytho: Creu Gweledigaethau o Ymarfer Effeithiol [.pdf 842Kb]