Skip to content

Y Prosiect Cyfranogiad Disgyblion

Dolenni perthnasol

Dathliad o’r ymagwedd oleuedig sydd gennym ni erbyn hyn at gyfranogiad a chynhwysiad disgyblion yw’r casgliad hwn o enghreifftiau.

Mae'r Prosiect Cyfranogiad Disgyblion yn helpu ysgolion i sicrhau bod gan blant a phobl ifanc lais a chyfle i gyfrannu at y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt, fel y nodwyd yn Erthygl 12 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP).

Sut y mae'n gweithio?

Mae'r prosiect yn bwriadu cyflawni'r nod hwn fel a ganlyn:

  • cynhyrchu gwybodaeth, canllawiau a deunyddiau ar gyfer plant, pobl ifanc a'r oedolion sy'n eu cefnogi
  • cydweithio â chydweithwyr o fewn Llywodraeth Cymru a thu allan er mwyn sicrhau bod cyfranogiad disgyblion yn ganolog i'r broses o ddatblygu polisïau a dulliau gweithredu addysgol allweddol, yn enwedig y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion
  • datblygu a chefnogi rhwydwaith o weithwyr proffesiynol yn yr awdurdodau lleol ar draws Cymru, a fydd yn gallu hyrwyddo a gweithredu dulliau effeithiol o sicrhau cyfranogiad disgyblion ar lefel leol 
  • cynhyrchu a datblygu deunyddiau hyfforddi fel bod oedolion sy'n chwarae rôl allweddol yn yr ysgolion (yn enwedig athrawon a llywodraethwyr) yn deall beth yw cyfranogiad effeithiol gan ddisgyblion, sut y mae'n cyfrannu at les plant a phobl ifanc ac yn helpu i wella ysgolion, a sut y gellir ei ddatblygu yn eu hysgol.

Rhagor o wybodaeth

Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Llais Disgyblion Cymru.

Cynghorau ysgol

Roedd Rheoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005 yn ei gwneud yn ofynnol yn statudol i bob ysgol a gynhelir yng Nghymru gael cyngor ysgol fel bod llais y disgyblion yn cael ei gynrychioli wrth ddatblygu polisïau a gweithdrefnau'r ysgol.

Mae Rheoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005 i'w cael ar wefan Swyddfa Gwybodaeth Sector Cyhoeddus.