Skip to content

Strategaeth Tlodi Plant

Dolenni perthnasol

Mae'r cynllun hwn yn disgrifio prif amcanion ein hymrwymiad i atal tlodi, i helpu pobl i oresgyn tlodi ac i leddfu effaith tlodi.
Mae'n rhoi manylion am y dyletswyddau a roddir ar y cyrff cyhoeddus, ac mae’r rheoliadau yn nodi'r fformat, amseru, ymgynghori a phrosesau adolygu ar gyfer eu strategaethau tlodi plant.
Ffynonellau data sydd i'w cael ar blant a phobl ifanc i gefnogi'r gwaith o fonitro Nod Craidd 7.
Diogelu hawliau dynol plant o dan 18 oed.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Plant yn chwarae
Mae'r Strategaeth Tlodi Plant i Gymru yn gosod gweledigaeth ac amcanion strategol ar gyfer lleihau tlodi plant.

Y tri amcan strategol ar gyfer trechu tlodi plant yw:

  1. lleihau'r nifer o deuluoedd sy'n byw mewn cartrefi di-waith;
  2. gwella sgiliau rhieni a phobl ifanc sy'n byw mewn cartrefi incwm isel er mwyn iddynt allu sicrhau cyflogaeth â thâl da;
  3. lleihau anghydraddoldebau sy'n bodoli mewn iechyd, addysg a deilliannau economaidd plant a theuluoedd drwy wella deilliannau'r tlotaf.

Mae'r tri amcan strategol wedi'u hymgorffori yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi yng Nghymru. Adroddir yn flynyddol ar y cynnydd a wneir o ran y camau a geir yn y cynllun.