Skip to content

Canllawiau ymarfer ar asesu'r cymorth sydd ei angen ar deuluoedd sy'n mabwysiadu (Cymru)

Dolenni perthnasol

Dau o brif amcanion polisi’r Cynulliad Cenedlaethol yw sicrhau lles plant trwy eu hamddiffyn rhag unrhyw fath o niwed a sicrhau ymateb priodol i’w hanghenion datblygiadol.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Dyma ganllaw arfer da ar gyfer ymarferwyr ar y rheng flaen yng Nghymru sy'n ymwneud yn ddyddiol ag asesu'r cymorth sydd ei angen ar deuluoedd sy'n mabwysiadu.

Mae'r canllaw hwn yn seiliedig ar y model plentyn-ganolog a amlinellwyd yn y Fframwaith ar gyfer Asesu Plant mewn Angen a'u Teuluoedd (y Fframwaith Asesu). Tybir at ddibenion y canllaw hwn bod yr ymarferwyr eisoes yn gyfarwydd â'r model asesu hwn neu bod ganddynt fynediad at rywun rywun sy'n gyfarwydd ag ef.

Mae adran 1 yn dangos sut y gellir cymhwyso'r egwyddorion sy'n sail i'r Fframwaith ar gyfer Asesu Plant mewn Angen a'u Teuluoedd at asesiadau'n ymwneud â chymorth mabwysiadu.

Mae adran 2 yn disgrifio meysydd a dimensiynau'r fframwaith asesu, ac yn archwilio beth fyddai angen ei ystyried ym mhob maes wrth asesu'r cymorth sydd ei angen.

Mae adran 3 yn ystyried yr ymatebion a'r ymyriadau posibl ar gyfer yr anghenion a nodir yn ystod y broses asesu.