Skip to content

Canllawiau arfer gorau - Rheoliadau seibiant i ofalwyr plant anabl (Cymru) 2012

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Lluniwyd y canllawiau i gynorthwyo awdurdodau lleol i ddeall eu dyletswyddau cyfreithiol.
Mae’r Rheoliadau Seibiannau Byr yn dweud sut y mae’n rhaid i awdurdodau lleol gyflawni eu dyletswydd dan Ddeddf Plant 1989 trwy ddarparu ystod o wasanaethau. 
Mae’n ofynnol i’r awdurdodau lleol wneud tri pheth:
  • wrth wneud darpariaeth seibiant byr, dylai awdurdodau sicrhau eu bod yn ystyried anghenion gwahanol fathau o ofalwyr, nid yn unig y rhai na fyddent yn gallu parhau i ddarparu gofal heb seibiant; 
  • darparu gwahanol fathau o seibiant, fel y bo’n briodol, yn ystod y dydd, y nos, ar y penwythnos ac yn ystod gwyliau ysgol; 
  • darparu, ar gyfer rhieni, ddatganiad o wasanaethau seibiant byr sy’n rhoi manylion y gwahanol fathau o seibiant sydd ar gael ac unrhyw feini prawf cymhwysedd sy’n berthnasol iddynt.
Daeth y Rheoliadau i rym ar 28 Mehefin 2012.