Skip to content

Canllawiau Swyddogion Adolygu Annibynnol Cymru: Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 a Rheoliadau Adolygu Achosion Plant (Diwygio) (Cymru) 2004

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Yr oedd rhaglen Rhoi Plant yn Gyntaf yn hybu datblygu rôl y Swyddog Adolygu Annibynnol (IRO) yn yr Awdurdodau Lleol. Roedd penodi IROs yn cael ei ystyried fel yn un dull o wella cynllunio gofal a gwneud penderfyniadau gan arwain at well cyfleoedd mewn bywyd ar gyfer plant sy’n derbyn gofal.

Gallai’r IRO wneud cyfraniad o bwys at sicrhau bod gan yr awdurdod lleol ymagwedd gyson tuag at ofal plant yr oedd yn gyfrifol amdanynt yn gorfforaethol. Gallai’r IRO gynnig mesur diogelwch i atal unrhyw wyro wrth gynllunio’r gofal ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a sicrhau bod ymdrechion awdurdodau lleol wrth adolygu achosion plant yn canolbwyntio ar ddiwallu anghenion y plant. Gallai’r IRO fonitro gweithgarwch yr awdurdod lleol fel rhiant corfforaethol wrth sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd i ddiwallu anghenion y plentyn.

Gallai rôl IRO sicrhau bod cynlluniau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal yn amserol, yn effeithiol ac yn sensitif i’w hanghenion unigol. Yr oedd gan y rôl hefyd y potensial i wneud cyfraniad o bwys at sicrhau ansawdd y gwasanaethau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal mewn unrhyw awdurdod lleol.