Skip to content

Adolygiad o Gapasiti Hyfforddiant Chwarae yng Nghymru a’r ffordd y’i Darperir

Dolenni perthnasol

Pasiwyd Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar Ddydd Mawrth, 10 Tachwedd 2009.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Bachgen yn chwarae
Mae’r adolygiad yn edrych ar enghreifftiau cyfredol o hyfforddiant chwarae, yr hyfforddiant chwarae a’r cymwysterau sydd ar gael ac anghenion y gweithlu yn y dyfodol.  Mae’n cynnwys rhestr o argymhellion y mae’r Llywodraeth wedi cynnig atebion iddynt.

Cynhaliwyd yr Adolygiad i asesu datblygiad hyfforddiant gwaith chwarae yng Nghymru a’r ffordd y’i darperir.  Comisiynwyd  Melyn Consulting i gynnal yr adolygiad, ac i edrych ar enghreifftiau cyfredol o’r ddarpariaeth sydd ar gael, a gwneud argymhellion ar gyfer dulliau o sefydlu fframwaith gadarn o ddarpariaeth at y dyfodol. 

I sefydlu ymhellach ei hymrwymiad i Chwarae, rydym yn datblygu Rheoliadau, Safonau a Chanllawiau i Awdurdodau Lleol sy’n gysylltiedig â’u dyletswyddau o dan y Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, i asesu ar gyfer cyfleoedd chwarae digonol i blant yn eu hardaloedd, ac i sicrhau hynny.  Bydd datblygu’r gweithlu chwarae yn cael ei gynnwys yn y dogfennau hyn, a’r rhain yn cael eu dosbarthu ar gyfer ymgynghoriad yn 2011. 

Isod, ceir copïau o adolygiad Melyn a’i argymhellion ac ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r adolygiad.