Skip to content

A oes rhywun arall yn gofalu am eich plentyn?

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Os yw'r amgylchiadau hyn yn berthnasol i'ch plentyn chi, dylech ddarllen y daflen hon. Bydd yn eich helpu i sicrhau bod eich plentyn yn cael gofal da.

Dyma rai o'r sefyllfaoedd maethu preifat:

  • plentyn sydd wedi'i anfon i'r wlad hon i gael addysg neu ofal iechyd am fod ei rieni naturiol yn byw dramor
  • plentyn sy'n byw gyda theulu un o'i ffrindiau am fod ei rieni wedi gwahanu, wedi ysgaru neu'n dadlau gartref neu am unrhyw reswm arall
  • person ifanc yn ei arddegau sy'n byw gyda theulu'i gariad
  • pobl sy'n dod i'r gwledydd hyn i astudio neu i weithio, ond sy'n ei chael hi'n anodd defnyddio gofal dydd cyffredin am eu bod yn gweithio oriau anghymdeithasol
  • rhieni sy'n gorfod symud tyˆ oherwydd eu gwaith, ac wedi trefnu i'w mab neu eu merch aros gyda ffrindiau er mwyn iddynt gwblhau cwrs addysg penodol.