Skip to content

Gwaith ymchwil i asesu graddfa'r berthynas rhwng Rhwydweithiau 14-19, Partneriaethau Pobl Ifanc a Thimau Troseddau Ieuenctid

Dolenni perthnasol

Oherwydd bod Timau Troseddau ieuenctid yn cynnwys cynrychiolwyr o ystod eang o wasanaethau, maent yn gallu ymateb i anghenion troseddwyr ifanc mewn ffordd cynhwysfawr.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i gefnogi perthynas gref rhwng Rhwydweithiau 14-19, Partneriaethau Pobl Ifanc a Thimau Troseddau Ieunctid. Nod yr adroddiad yw rhoi syniad o gryfder y partneriaethau hyn a pha mor effeithiol ydynt yn diwallu anghenion pobl ifanc yng Nghymru. Bydd yr adroddiad hefyd yn nodi enghreifftiau o arferion da, yn ogystal â'r rhwystrau rhag gweithio'n effeithiol mewn partneriaeth.

Adran Un

Yn adran un rydym yn amlinellu'r cyd-destun ar gyfer yr astudiaeth, gan ddisgrifio rôl y Rhwydweithiau 14-19, y Partneriaethau Pobl Ifanc a'r Timau Troseddau Ieunectid. Gyda'i gilydd, "y partneriaethau" yw ein henw ar y rhain.

Adran Dau

Yn adran dau rydym yn disgrifio methodoleg yr astudiaeth, sy'n integreiddio canfyddiadau adolygiad llenyddiaeth ac arolwg o Bartneriaethau Pobl Ifanc, Timau Troseddau Ieuenctid a Phartneriaethau 14-19, ynghyd â chyfweliadau â rhanddeiliaid allweddol. Cafwyd ymateb gan 45% o'r partneriaethau y cysylltwyd â hwy. Ar y cyd â'r adolygiad llenyddiaeth a chyfweliadau â rhanddeiliaid allweddol, a oedd yn cynnwys Awdurdodau Lleol na chafwyd ymateb gan eu partneriaethau i'r arolwg, mae'n rhoi sylfaen dystiolaeth gadarn ar gyfer pwyso a mesur cryfder perthynas y partneriaethau ledled Cymru.

Adran Tri

Yn adran tri rydym yn adolygu'r llenyddiaeth ar waith a gynhelir ar y cyd rhwng partneriaethau. Er mai prin yw'r adroddiadau sy'n canolbwyntio yn uniongyrchol ar gryfder y cydweithredu rhwng partneriaethau (hynny yw, gwaith ar y cyd rhwng partneriaethau), rydym yn canfod bod corff sylweddol o lenyddiaeth sy'n archwilio'r cydweithredu rhwng aelodau partneriaethau (hynny yw, gwaith ar y cyd o fewn partneriaethau). Gyda'i gilydd, mae'r astudiaethau hyn yn awgrymu bod gwaith ar y cyd o fewn partneriaethau yn gwella a bod engheifftiau o arferion da ledled Cymru, ond mai gwan yw'r sefyllfa yn gyffredinol. Mae'r gwendidau allweddol yn cynnwys diffyg gweledigaeth ar y cyd a diffygion o ran rhannu gwybodaeth ac arweiniad.

Adran Pedwar

Yn adran pedwar rydym yn trafod canfyddiadau'r arolwg a'r cyfweliadau. Rydym yn dod o hyd i enghreifftiau o arferion da. Rydym hefyd yn dod o hyd i dystiolaeth bod cydweithredu rhwng partneriaethau yn debyg o gryfhau eto. Serch hynny, rydym hefyd yn dod o hyd i dystiolaeth o gydweithredu gwan.

Mae'r dystiolaeth hefyd yn awgrymu bod cydweithredu rhwng Rhwydweithiau 14-19 a Thimau Troseddau Ieuenctid gryn dipyn yn wannach na chydweithredu rhwng Rhwydweithiau 14-19 a Phartneriaethau Pobl Ifanc a chydweithredu rhwng Timau Troseddau Ieuenctif a Phartneriaethau Pobl Ifanc. Er enghraifft, ceir llai o dystiolaeth bod Rhwydweithiau 14-19 a Thimau Troseddau Ieuenctid yn rhannu adnoddau, yn deall eu hagendâu ei gilydd ac yn cynnal hyfforddiant ar y cyd. Mae rhai Timau Troseddau Ieuenctid yn adrodd bod Rhwydweithiau 14-19 yn canolbwyntio gormod ar ddarpariaeth prif ffrwd, gan anwybyddu llawer o'r bobl ifanc y maen nhw'n gweithio â hwy. Mae rhai Partneriaethau Pobl Ifanc a Thimau Troseddau Ieuenctid hefyd yn adrodd nad ydynt yn gallu mynychu cyfarfodydd Rhwydweithiau 14-19 ar lefel weithredol, lle mae llawer o'r penderfyniadau yn cael eu gwneud.

Adran Pump

Yn adran pump rydym yn ystyried y dystiolaeth o gryfderau a gwendidau o ran cydweithredu rhwng partneriaethau. Rydym yn canfod bod ein harolwg a'n cyfweliadau, ar y cyfan, yn cefnogi'r casgliadau a geir yn y llenyddiaeth. Hynny yw, bod gwaith mewn partneriaeth yn gwella a bod enghreifftiau o arferion da, ond bod angen gwneud mwy yn hyn o beth. Rydym hefyd yn tynnu sylw at rai o'r awgrymiadau gan bartneriaethau ynghylch sut y gellid cryfhau gwaith ar y cyd rhwng partneriaethau.