Skip to content

Sylwadau Clo ar gyfer y DU gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (mis Hydref 2008)

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Gwnaeth Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn edrych yn ofalus ar hynt y gwaith a wnaed gan y DU ym mis Medi er mwyn gweld sut y mae'n rhoi hawliau'r plentyn ar waith o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Mae'r Pwyllgor yn cyfarfod bob pedair neu bum mlynedd i edrych ar hynt y gwaith a wnaethpwyd.

Gwnaeth y pedair Llywodraeth yn y DU (Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon) ddarparu gwybodaeth ar hynt y gwaith a wnaed yn y DU ers y cyfnod adrodd diwethaf. Gwnaeth nifer o sefydliadau eraill hefyd roi eu barn am y gwaith a wnaed hyd yn hyn.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth ac ymweld â'r wlad o dan sylw mewn rhai achosion, cynigiodd y Pwyllgor 124 o sylwadau clo (neu argymhellion) i ddangos y meysydd lle mae'n rhaid i'r Llywodraeth wneud mwy er mwyn rhoi Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ar waith yn llwyr yn y DU.