Skip to content

Pwy yw eiriolwyr?

Mae gwahanol bobl sy'n eiriolwyr, mae rhai yn cael eu hyfforddi ac yn gymwys i fod yn eiriolwr. Mae'n bosibl y bydd eraill wedi'u hyfforddi ac yn gymwys i wneud pethau eraill ond maent yn eiriolwyr oherwydd y gwaith y maent yn ei wneud gyda phlant a phobl ifanc neu oherwydd eu bod yn gofalu.

Mae eiriolwr yn berson y mae plentyn neu berson ifanc yn teimlo'n gyfforddus yn siarad â hwy a rhannu'u pryderon. Gallai fod yn:

  • fam neu'n dad
  • aelod arall o'r teulu
  • gofalwr neu warcheidwad
  • cyfaill
  • person arall y maent yn ymddiried ynddynt megis athro, gweithiwr cymdeithasol, gweithiwr ieuenctid neu weithiwr proffesiynol arall. 

Mae eiriolwyr yn edrych ar ôl buddiannau plentyn neu berson ifanc ac yn sicrhau eu bod yn cael cyfle iddynt fynegi'u barn hyd nes y byddant yn ddigon hyderus i siarad drostynt eu hunain. Mae nifer o eiriolwyr yn helpu ac yn cefnogi plant a phobl ifanc heb sylweddoli eu bod yn eiriolwyr neu yn eirioli ar ran plant a phobl ifanc.

Eiriolwyr proffesiynol annibynnol

Mae rhai plant a phobl ifanc yn teimlo nad oes ganddynt rywun i siarad ar eu rhan neu i'w helpu i sicrhau bod eu safbwyntiau yn cael eu clywed. Dyma'r adeg y gallai eiriolwr proffesiynnol annibynnol helpu.

Mae eiriolwyr proffesiynnol annibynnol wedi'u hyfforddi a/neu yn gymwys i fod yn eiriolwr, ac nid ydynt yn gysylltiedig â sefyllfa'r plentyn neu'r person ifanc. Yn aml mae ganddynt sgiliau a phrofiad arbennig o eirioli ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phroblemau cymhleth.