Skip to content

Codi ymwybyddiaeth

Mae gennym ddyletswydd o dan Erthygl 42 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) i sicrhau bod pob rhiant a phlentyn yn ymwybodol o'r Confensiwn.

Mae Paragraff 21 o Sylwadau Terfynol 2008 yn datgan bod yn rhaid i lywodraethau yn y DU wneud y canlynol:

"Cynnwys cyrff anllywodraethol a phlant yn y gwaith o sicrhau y gweithredir ar y sylwadau clo hyn, ac wrth baratoi’r adroddiad nesaf ar gyfer Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig."

Mewn ymateb i hyn, aethom ati'n ddiweddar i adolygu'r adnoddau sydd ar gael i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth am y CCUHP. Canfuwyd bod diffyg deunyddiau sydd wedi'u paratoi'n arbennig ar gyfer rhieni a theuluoedd.

Adnoddau a deunyddiau

Bydd yr holl ddeunyddiau'n cael eu paratoi mewn ystod o fformatau er mwyn sicrhau eu bod mor hygyrch â phosibl. Byddant yn greadigol ac ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Byddant hefyd yn cael eu profi a'u gwerthuso cyn cael eu hyrwyddo a'u dosbarthu'n ehangach.

Pecyn cymorth

Fel man cychwyn, ac i gydnabod 20 mlynedd ers sefydlu'r CCUHP, aethom ati i baratoi Pecyn Cymorth Codi Ymwybyddiaeth ar gyfer:

  • plant a phobl ifanc
  • rhieni
  • athrawon
  • gweithwyr proffesiynol eraill sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.

Gellir lawrlwytho'r pecyn cymorth drwy glicio ar y ddolen ar ochr chwith y dudalen hon.

Yn dilyn llwyddiant y Pecyn Cymorth, rydym bellach yn ystyried y posibilrwydd o ychwanegu modiwl yn ymwneud ag AAA (Anghenion Addysgol Arbennig), er mwyn sicrhau bod mwy o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn ymwybodol o'r Confensiwn.

Gwersi Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Byddwn yn datblygu adnoddau ar gyfer plant a phobl ifanc, gan gynnwys ymgorffori'r CCUHP yn y gwersi Addysg Bersonol a Chymdeithasol.

Hyfforddiant proffesiynol

Byddwn yn darparu hyfforddiant proffesiynol i nifer o sectorau ynghyd â deunyddiau ar gyfer rheini, teuluoedd a'r gynulleidfa gyffredinol, er mwyn eu haddysgu am y CCUHP a'i bwysigrwydd. 

Codi ymwybyddiaeth o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru

Rydym yn codi ymwybyddiaeth ymhlith ein cydweithwyr ar draws Llywodraeth y Cynulliad er mwyn datblygu eu dealltwriaeth o'r maes hwn.

Yn ddiweddar, gwahoddwyd grŵp o bobl ifanc o'r enw Trowch Mlaen ein Hawliau i gynnal gweithdy ar gyfer staff er mwyn egluro'r CCUHP a phwysigrwydd hawliau plant. Roedd y gweithdy'n llwyddiant ysgubol, ac felly rydym yn bwriadu cynnal y gweithdai hyn yn swyddfeydd eraill Llywodraeth y Cynulliad ar draws Cymru.