Skip to content

Y diwylliant gangiau

Dolenni perthnasol

Mae'r ymchwil hwn yn archwilio'r ffactorau risg y mae pobl ifanc yn eu hwynebu wrth dyfu i fyny mewn gwahanol gymunedau ac ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru a'r hyn sy'n eu hamddiffyn rhagddynt.

Ar hyn o bryd, lefel isel iawn o weithgarwch gan gangiau sydd yng Nghymru, ond mae'r awdurdodau lleol yn cymryd camau yn yr ychydig ardaloedd ynysig hynny sy'n dioddef o ganlyniad i gangiau.

Y canllawiau yn Lloegr

Yn 2009 cyhoeddodd yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd yn Lloegr ganllawiau at ddibenion ymgynghori yn Lloegr ar blant a phobl ifanc y mae'n bosibl yr effeithir arnynt gan gangiau. Disgwylir i'r fersiwn derfynol gael ei chyhoeddi yn ystod gwanwyn 2010.

I weld y canllawiau ewch i wefan yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd (yn Saesneg yn unig).

Anelir y canllawiau at weithwyr proffesiynol ac asiantaethau sy'n delio â phlant a phobl ifanc o dan 18 oed ac sy'n agos iawn at ddod i gysylltiad gyda gang stryd a'r rhai sy'n gysylltiedig â hwy.

Lefel isel o weithgarwch gan gangiau yng Nghymru

Rydym wedi derbyn copi o'r canllawiau drafft a ystyriwyd a fyddai angen canllawiau tebyg yng Nghymru ar hyn o bryd. Cafodd y ddogfen ddrafft ei chylchredeg i aelodau'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelu Plant Llywodraeth Cynulliad Cymru (WAGCSAG).

Yr oedd y sylwadau a dderbyniwyd yn awgrymu mai lefel isel iawn o weithgarwch gan gangiau sydd yng Nghymru, ond mae'r awdurdodau lleol yn cymryd camau yn yr ychydig ardaloedd ynysig hynny sy'n dioddef o ganlyniad i gangiau.

O ganlyniad cytunodd y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol nad oedd angen cyhoeddi canllawiau tebyg yng Nghymru ar hyn o bryd ond y dylai'r sefyllfa gael ei monitro a'i hadolygu maes o law.