Skip to content

Teithio'n ddiogel

Dolenni perthnasol

Diben y rhaglen hon yw gwella hygyrchedd a diogelwch, a hybu cerdded a beicio mewn cymunedau.
Yma, cewch wybodaeth am deithio gan ddysgwyr a pholisïau a gweithdrefnau Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â'r maes hwn.
Cyfle i ddysgu mwy am dechnegau gyrru, a chael awgrymiadau a chynghorion pellach am £20 yn unig (os ydych chi rhwng 17-25 oed ac yn byw yng Nghymru).
Mae’n erbyn y gyfraith i ddefnyddio ffôn symudol yn eich llaw wrth yrru.
Mae'r boreau a'r nosweithiau tywyll yn golygu bod plant yn fwy diamddiffyn ar ein ffyrdd gan nad ydynt mor hawdd eu gweld gan fodurwyr.

Rydym yn ariannu cynlluniau ac ymgyrchoedd i sicrhau teithio diogelach i bawb yn ein cymunedau.

Mae mwy o fanylion ar ein holl gynlluniau a'n hymgyrchoedd i'w gweld ar y Dolenni Perthnasol ar ochr dde'r dudalen hon.

Llwybrau Diogel mewn Cymunedau

Nod y rhaglen hon yw ei gwneud yn haws cyrraedd llefydd a gwneud hynny mewn ffordd fwy diogel, yn ogystal â hybu cerdded a beicio mewn cymunedau. Rydym wedi rhoi mwy na £18miliwn ers 2008/09 pan ddisodlwyd Llwybrau Diogel mewn Cymunedau gan Llwybrau Diogel i'r Ysgol.

Teithio i'r ysgol a'r coleg ac yn ôl

Mae teithio i'r ysgol neu'r coleg ac yn ôl yn rhan bwysig o ddiwrnod disgybl. Rydym am sicrhau bod y daith hon mor ddiogel a hawdd â phosibl. Cliciwch ar y ddolen 'Teithio gan Ddysgwyr' ar y dde i gael gwybod mwy.

Pass Plus Cymru

Fersiwn estynedig o’r cwrs safonol Pass Plus yw Pass Plus Cymru a gefnogir gan yr Asiantaeth Safonau Gyrru. Cwrs gyrru byr ydyw, sydd wedi’i gynllunio i helpu pobl ifanc i:

  • ddatblygu technegau gyrru
  • bod yn fwy ymwybodol o beryglon ac
  • ehangu profiad.

Mae ar gael i bobl ifanc Cymru am £20 yn unig gan fod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi cymhorthdal ar gyfer y cwrs. Ffoniwch 0845 050 4255 i archebu lle.

Marw dros eich galwad?

Mae’n erbyn y gyfraith i ddefnyddio ffôn symudol yn eich llaw wrth yrru. Gallech gael dirwy o £60 a thri phwynt ar eich trwydded. Diffoddwch eich ffôn cyn cychwyn.