Skip to content

Menter Dysgu ar gyfer Pobl Ifanc yn y System Cyfiawnder Troseddol (Cymru) (YPCJLI)

Dolenni perthnasol

Prif bwrpas y darpariaethau hyn yn y Ddeddf yw adlewyrchu cyn belled ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol, y ddarpariaeth addysgu ar gyfer plant a phobl ifanc yn y gymuned mewn ysgolion prif ffrwd.

Dyluniwyd y fenter hon er mwyn hyrwyddo dulliau effeithiol o weithredu ar gyfer pennu a mynd i'r afael ag anghenion dysgu pobl ifanc sydd rhwng 11 a 25 oed ac yn y System Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru sydd wedi'u lleoli mewn mannau yn y gymuned ac mewn mannau carcharu.

Nodwyd mai addysg yw'r ffactor pwysicaf er mwyn atal aildroseddu.

Ffocws

Bydd y fenter yn canolbwyntio ar gefnogi pobl ifanc 11-17 oed sy'n gysylltiedig â chonsortia o Dimau Troseddau Ieuenctid. Bydd yn cwmpasu pwynt trosglwyddo allweddol y rhai sy'n 17-19 oed o fewn y system cyfiawnder troseddol.

Bydd hefyd yn ceisio ymgysylltu â Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr Cymru a meysydd polisi Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau Llywodraeth cynulliad Cymru sy'n gyfrifol am addysg y troseddwyr hynny sydd dros 18 oed.

Ariannu

Mae'r arian sydd ar gael yn werth tua £1.25 miliwn. Caiff ei rannu rhwng:

  • pobl ifanc yn y gymuned (tua 70%)
  • y rhai sydd mewn ystâd ddiogel (30%).

Mae hyn yn cyfateb i'r amrywiaeth sylweddol rhwng yr unigolion sy'n gysylltiedig â Thimau Troseddau Ieuenctid a'r niferoedd mewn mannau carcharu. Mae'r Fenter yn targedu:

  • menywod ifanc 
  • pobl ifanc ag Anghenion Addysgol Arbennig
  • Cymry ifanc o gymunedau Du a Lleiafrifoedd Ethnig
  • allgymorth a mewngymorth i'r ystâd ddiogel yng Nghymru a Lloegr hyd at 20 oed (yn gymwys hyd at un diwrnod cyn y penblwydd yn ugain oed).

Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd: Troedle Cyntaf

Prosiect Cydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd yw'r Fenter. Mae'n dod o dan y pennawd 'Troedle Cyntaf' yn Cyrraedd y Nod. Prif nod Troedle Cyntaf yw ymgysylltu gyda rai o bobl ifanc mwyaf difreintiedig Cymru i'w helpu i fynd i'r afael â'r pethau sy'n eu rhwystro rhag dysgu a symud ymlaen. Mae'n cynnwys rhoi cefnogaeth i bobl ifanc a hyfforddiant ar gyfer y rhai sy'n eu helpu, ynghyd â chyfleoedd newydd ar gyfer dysgu yn y gwaith ac mewn amgylcheddau newydd.