Skip to content

Atal troseddu ieuenctid

Mae nifer o gynlluniau yn eu lle i atal pobl ifanc rhag troseddu ac ymddwyn yn wrth-gymdeithasol.

Rhaglenni Cynhwysiant Ieuenctid

Mae'r Rhaglenni Cynhwysiant Ieuenctid, a sefydlwyd yn 2000, yn rhaglenni sydd wedi'u teilwra'n arbennig ar gyfer rhai rhwng 8 ac 17 oed sydd wedi'u nodi fel rhai sy'n debygol o droseddu neu gymryd rhan mewn ymddygiad gwrth-gymdeithasol.

Mae'r rhaglen yn rhoi rhywle diogel i bobl ifanc fynd i allu dysgu sgiliau newydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau gydag eraill a chael cymorth gyda'u haddysg ac arweiniad o ran eu gyrfa. Mae'r modelau rôl cadarnhaol sydd yno - y gweithwyr a'r mentoriaid gwirfoddol - yn helpu i newid agweddau pobl tuag at addysg a throseddu.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y Rhaglenni Cynhwysiant Ieuenctid ewch i wefan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid (yn Saesneg yn unig).

Paneli Cynhwysiant a Chymorth Ieuenctid

Nod Paneli Cynhwysiant a Chymorth Ieuenctid yw atal ymddygiad gwrth-gymdeithasol a throseddu gan bobl ifanc 8 - 13 oed yr ystyrir eu bod yn debygol o droseddu.  

Mae'r panel yn cynnwys nifer o gynrychiolwyr o wahanol asiantaethau (ee yr heddlu, ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd). Prif bwyslais gwaith y panel yw sicrhau bod plant a'u teuluoedd yn gallu cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus yn y brif ffrwd mor gynnar â phosibl.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y Paneli Cynhwysiant a Chymorth Ieuenctid  ewch i wefan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid (yn Saesneg yn unig).

Sblash Cymru

Rhaglen o weithgareddau dargyfeiriol ar gyfer pobl ifanc 13 - 17 oed yw Sblash Cymru a hynny yn ystod gwyliau ysgol yng Nghymru. Fe'i lansiwyd yn 2002 (yn wreiddiol ar gyfer rhai 9 i 17 oed) a hynny'n dilyn llwyddiant y rhaglenni Splash a Splash Extra yn Lloegr.

Caiff y rhaglen ei hariannu a'i rheoli gan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, ac mae'n cynnwys cynlluniau lleol mewn ardaloedd lle mae lefel uchel o droseddu ac amddifadedd.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am Sblash Cymru ewch i wefan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid (yn Saesneg yn unig).