Skip to content

Grantiau

Mae gennym dau grant ar gyfer mudiadau sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc: Grant Mudiadau Plant a Theuluoedd a'r Cynllun Grantiau Cyrff Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol.

Grant Mudiadau Plant a Theuluoedd

Mae’r Grant Mudiadau Plant a Theuluoedd yn darparu cyllid craidd ar gyfer mudiadau gwirfoddol sy’n gweithio ar lefel Cymru gyfan i ddatblygu gwasanaethau cymorth i blant a theuluoedd.

Nod

Ei nod yw datblygu gallu mudiadau gwirfoddol cymwys i helpu ni i gyflawni ei amcanion ym maes mynd i’r afael â thlodi plant, gan greu cymdeithas fwy cynhwysol gyda chyfle cyfartal.

Ariannu

Mae cyfanswm o £10.4 miliwn wedi’i roi i'r Grant tan 2010/11. Cynhaliwyd cylch ceisiadau cystadleuol rhwng Awst a Hydref 2007 a bydd 19 sefydliad yn derbyn grantiau am dair blynedd nes 2011.

I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â:

Ffôn: (029) 2082 6802
E-bost: cymorth@wales.gsi.gov.uk  

Cynllun Grantiau Cyrff Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol

Nod

Nod y cynllun yw helpu cyrff ieuenctid gwirfoddol cenedlaethol (sy'n hwyluso gwasanaethau i bobl ifanc yng Nghymru) i gynyddu ystod ac ansawdd y cyfleoedd dysgu anffurfiol sydd ar gael i bob person ifanc 11-25 oed yng Nghymru.

Mae unrhyw gorff gwirfoddol cenedlaethol, sy'n gallu dangos ei fod yn gweithredu yn y Sector Gwaith/Gwasanaeth Ieuenctid ac yn darparu rhaglen unigryw o waith ieuenctid yng Nghymru, ar gyfer pobl ifanc 11-25 oed, yn gymwys i wneud cais.

Nid yw'r cynllun ar gael i grwpiau ieuenctid gwirfoddol lleol nac i fudiadau neu grwpiau cyfansoddol o Gyrff Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol.

Ceisiadau

Cylch ariannu tair blynedd sydd i’r cynllun, ac ar hyn o bryd mae ar gau i ymgeiswyr. Bydd y cylch ariannu nesaf yn dechrau ar 1 Ebrill 2012 ac yn dod i ben ar 31 Mawrth 2015. Bydd y cynllun yn ailagor i ymgeiswyr yn haf 2012.

Cewch ragor o wybodaeth am y cynllun oddi wrth:

Y Gangen Strategaeth Gwaith Ieuenctid
3ydd Llawr
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn: (029) 2080 1344
Ffacs: (029) 2066 3753