Skip to content

Cyngor Celfyddydau Cymru

Dolenni perthnasol

Mae Llywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru ac awdurdodau lleol partner yn arwain dathliad o fywyd Dylan Thomas, ei waith a’i etifeddiaeth.
Sut y caiff arian y Loteri ei ddosbarthu yng Nghymru.
Cyngor Celfyddydau Cymru
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru'n hyrwyddo a datblygu'r celfyddydau yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi grant blynyddol i Gyngor y Celfyddydau i roi cyfleoedd i bobl yng Nghymru gael profiad o weithgareddau'r celfyddydau a chymryd rhan ynddynt. Cyngor Celfyddydau Cymru sy'n penderfynu faint o arian y bydd sefydliad neu unigolyn yn ei dderbyn.

Mae Cyngor y Celfyddydau o'r farn y bydd sector celfyddydau deinamig a chreadigol yn gwneud Cymru'n wlad well, ac y dylem ddathlu llwydiant artistiaid.

Mae Cyngor y Celfyddydau hefyd yn dosbarthu arian y loteri i'r celfyddydau yng Nghymru. Yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, yn Llundain, sy'n dyrannu'r arian hwn y Gyngor y Celfyddydau.

Bob blwyddyn mae Llywodraeth Cymru'n anfon llythyr cylch gwaith i Gyngor y Celfyddydau. Mae'n cadarnhau faint o arian y bydd yn ei dderbyn ac mae'n nodi'r blaenoriaethau y dylai Cyngor y Celfyddydau ganolbwyntio arnynt yn y flwyddyn honno.

Mae'r llythyr cylch gwaith diweddaraf ar gael ar ochr dde'r dudalen hon.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am waith Cyngor Celfyddydau Cymru, ewch i'w wefan.