Skip to content

Yr amgylchedd hanesyddol

Dolenni perthnasol

Mae Cadw yn rhoi grantiau ar gyfer gwarchod ac atgyweirio asedau hanesyddol.
Pobl yng Nghastell Casgwent

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn egluro ein hymrwymiad i ehangu mynediad i'r amgylchedd hanesyddol.

Rydym am wneud yr amgylchedd hanesyddol yn agored i bawb.

Beth yw’r amgylchedd hanesyddol?

Mae'n cynnwys:

  • Adeiladau hanesyddol.
  • Henebion, megis cestyll, abatai, meini hirion ac olion diwydiannol.
  • Safleoedd llongddrylliadau.
  • Safleoedd archeolegol.
  • Parciau, gerddi a thirweddau hanesyddol.

Ffeithiau a ffigurau

Yng Nghymru, ceir:

  • 3 safle Treftadaeth y Byd.
  • 34,000 o henebion cofrestredig neu adeiladau rhestredig.
  • 428 o dirweddau, parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig.
  • 127 o safleoedd sydd dan ofal Cadw.
  • 4,300 o asedau treftadaeth morol.
  • 519 o ardaloedd cadwraeth.

Cadw

Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru ac mae'n noddi Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Nod Cadw yw:

  • Diogelu treftadaeth Cymru.
  • Helpu pobl i ddeall ac i ofalu am eu hanes.
  • Helpu i gynnal cymeriad unigryw Cymru.
  • Helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i les pobl yng Nghymru.

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Mae’r Comisiwn Brenhinol yn arolygu, yn cofnodi ac yn esbonio adeiladau ac archaeoleg, ac mae’n sicrhau bod gwybodaeth ar gael i’r cyhoedd ar-lein ac yn ei lyfrgell yn Aberystwyth.