Skip to content

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Dolenni perthnasol

Yr hyn mae'r Comisiwn Brenhinol yn mynd i'w wneud yn 2011-12.
Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, yn gweithio i sicrhau amgylchedd hanesyddol hygyrch a ddiogelir yn dda i Gymru.
Person yn defnyddio cyfarpar archwilio
Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn archwilio amgylchedd hanesyddol Cymru ac yn cadw'r archif genedlaethol.

Sefydlwyd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ym 1908 ac mae wedi'i leoli yn Aberystwyth. Mae'n Gorff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad (CNLC) ac mae'n derbyn arian gan Cadw.

Mae staff y Comisiwn yn sicrhau bod treftadaeth archaeolegol, adeiledig a morol Cymru wedi'i chofnodi'n awdurdodol a'i deall yn gywir.

Mae'n cymryd cyfrifoldeb am ofalu am Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru a'i ddatblygu ac mae'n rhoi mynediad ar-lein i'r cofnod drwy wefan a neilltuwyd ar gyfer y gwaith:

                  Gwefan Coflein 

Mae'r Comisiwn yn hyrwyddo dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o'r amgylchedd hanesyddol a hynny'n genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae'r gweithgareddau'n cynnwys:

  • Cyhoeddi llyfrau a thaflenni.
  • Gwefan y Comisiwn Brenhinol.  
  • Gwasanaeth ymholiadau a llyfrgell am ddim.
  • Gwasanaethau dysgu.
  • Darlithiau a diwrnodau hyfforddi.
  • Ymgysylltu â'r gymuned.

Gall aelodau o'r cyhoedd ddefnyddio'r deunyddiau sydd wedi'u harchifo, gan gynnwys darluniau, mapiau, cynlluniau, lluniau a lluniau o'r awyr, adroddiadau ymchwil a chofnodion ysgrifenedig sydd wedi'u storio yn yr ystafell chwilio a'r llyfrgell. Fe'ch cynghorir i wneud apwyntiad o flaen llaw. Cysylltwch â Gwasanaeth Ymholiadau a Llyfrgell Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru drwy ffonio  01970 621200 neu drwy anfon e-bost at: nmr.wales@rcahmw.gov.uk.

Rhagor o wybodaeth

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan CBHC.