Skip to content

Y Gronfa Radio Gymunedol

Dolenni perthnasol

Sefydlodd Gweinidogion Cymru yr adolygiad o'r Gronfa Radio Cymunedol er mwyn gwerthuso effeithiau'r Gronfa.
Cydweithio â Llywodraeth y DU i gefnogi cyhoeddi, ffilm a darlledu yng Nghymru.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu cronfa i gydnabod cyfraniad y gorsafoedd radio cymunedol i'w cymunedau.

Beth yw diben y gronfa?

Mae’r gronfa wedi’i chreu i helpu i redeg gorsafoedd radio cymunedol sydd wedi derbyn trwydded ddarlledu pum mlynedd gan Ofcom (y Swyddfa Gyfathrebiadau yn y DU).

Gwneud cais am arian

Bu un cylch ceisiadau yn ystod pob blwyddyn ariannol. Hyd yma mae pump cylch o geisiadau wedi eu dyrannu ac mae'r Gronfa wedi ei hymestyn am flwyddyn arall. Dyfarnwyd grantiau i wyth gorsaf radio cymunedol yn y flwyddyn 2012-13.

Mae’r grantiau yn cael eu gwobrwyo ar sail gystadleuol. Y grant lleiaf ar gael yw £5,000 ond nid oes uchafswm.

Y dyddiad cau i ymgeisio am gyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol 2013-14 yw 19 Chwefror 2013.