Skip to content

Amgueddfa Cymru

Eglwys Sant teilo, Sain Ffagan
Mae Amgueddfa Cymru'n gyfrifol am gadw, cyflwyno a hyrwyddo diwylliant Cymru.

Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru (CNLC) yw Amgueddfa Cymru, ac mae CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru yn gyfrifol am y polisi a'r gwaith beunyddiol sy'n ymwneud â'r Amgueddfa.

Cafodd Amgueddfa Cymru ei sefydlu drwy Siarter Frenhinol yn 1907 ac mae ganddi saith safle:

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
  • Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis
  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon
  • Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Sir Gaerfyrddin
  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerleon
  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe

Ym mis Ebrill 2001, cyflwynwyd cynllun mynediad am ddim i amgueddfeydd cenedlaethol, a chafodd hyn effaith syfrdanol ar niferoedd ymwelwyr. Yn 2010-11, aeth 1.65 miliwn o ymwelwyr i safleoedd Amgueddfa Cymru, dros dwywaith y nifer yn 2001, a chynnydd o dros 100,000 ers 2008-09.

Am fwy o wybodaeth am Amgueddfa Cymru ewch i wefan Amgueddfa Cymru.

Llythyr Cylch Gwaith

Bob blwyddyn, mae Llywodraeth Cymru yn anfon Llythyr Cylch Gwaith i Amgueddfa Cymru. Mae'r llythyr yn amlinellu rôl yr Amgueddfa mewn perthynas ag agenda strategol y Llywodraeth. Mae'r llythyr hwn yn cynnwys manylion am y blaenoriaethau a'r canlyniadau a ddisgwylir gan y sefydliad, yn ogystal â faint o gylllid a fydd yn cael ei ddarparu iddo.  Gallwch weld y Llythyr Cylch Gwaith trwy'r menu ar ochr chwith y dudalen hon.