Skip to content

Derbyn Eitemau yn lle Treth

Mae’r cynllun Derbyn Eitemau yn lle Treth (AIL) yn galluogi trethdalwyr i drosglwyddo gweithiau celf ac eitemau treftadol pwysig i berchnogaeth gyhoeddus.

Mae’r adran hon yn amlinellu pwrpas a threfniadaeth y cynllun, gan nodi’r buddion a ddaw i ddarpar gynigwyr a darpar dderbynwyr (amgueddfeydd, orielau, llyfrgelloedd ac archifau). Mae’r cynllun yn weithredol ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig.

Pa fathau o eitem sydd yn berthnasol i’r cynllun?

Gall Cyllid a Thollau EM dderbyn gweithiau celf, llawysgrifau, eitemau treftadol, archifau a dogfennau hanesyddol i dalu treth etifeddiant. Rhaid i’r eitemau hyn fod yn ‘ddigyffelyb’, hynny yw rhaid iddynt feddu ar arwyddocâd neilltuol yn hanesyddol, yn gelfyddydol, yn wyddonol neu’n lleol, naill ai’n unigol neu fel casgliad. Rhaid i’r eitemau fod mewn cyflwr derbyniol.

Sut mae’r cynllun yn gweithredu yng Nghymru?

Cynigir eitemau i Gyllid a Thollau EM yn lle treth. Rhaid i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth eu cymeradwyo, ar sail cyngor gan Banel Derbyn yn lle Treth y Cyngor Celfyddydau Lloegr (CCLl). Mae aelodau’r Panel hwn yn arbenigwyr annibynnol, ac yn ceisio cyngor arbenigol ynglŷn â’r eitem sydd a gynigir. Mae’r panel yn gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru a bydd yn cydgysylltu â CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru mewn achosion priodol.

Yng ngoleuni’r cyngor hwnnw, bydd y Panel yn argymell a yw’r eitem dan sylw’n ddigyffelyb ai peidio, ac yn asesu ei gwerth ar y farchnad agored. Cyflwynir argymhellion y Panel i’r Gweinidog, a bydd yn penderfynu a ddylid derbyn yr eitem ai peidio.

Pwy gaiff ddefnyddio’r cynllun?

Caiff unrhyw un sydd yn gorfod talu treth etifeddiant ar y pryd gynnig eitem yn lle’r cyfan neu ran o’r hyn sydd yn ddyledus. Yr enw am hyn yw ‘Derbyn yn lle Treth’, sef enw’r cynllun. Rheolir yr holl gyngor ar natur ddigyffelyb, prisiad, cyflwr a dyraniad eitemau (heblaw am ddyrannu llawysgrifau) gan CCLl a hynny drwy Brydain.

Os oes gennych rhywbeth yr hoffech iddo gael ei ystyried, ysgrifennwch at: Capital Taxes Heritage Team, HM Revenue & Customs, Ferrers House, PO Box 38, Castle Meadow Road, Nottingham, NG2 1BB. Byddai o gymorth, er nad yw’n angenrheidiol, pe byddech yn anfon copi at: Gerry McQuillan, Cyngor Celfyddydau Lloegr, 14 Great Peter Street, Llundain, SW1P 3NQ.

Am wybodaeth bellach, ewch i wefan Cyngor Celfyddydau Lloegr.