Skip to content

Archifau

Mae archifau yn gofnodion o werth hanesyddol, diwyllianol neu weinyddol sydd yn perthyn i unigolyn neu sefydliad.

Mae gwasanaethau archifau ceisio diogelu treftadaeth archifol unigryw trwy gasglu, rhestru, storio a darparu archifau hanesyddol o bob math.

Archifau yng Nghymru

Mae 13 o wasanaethau archifau lleol yng Nghymru, sydd yn casglu a chadw archifau perthnasol i hanes yr ardal leol. Hefyd, mae nifer o ystorfeydd archifau addysg uwch ac arbenigol sydd yn casglu archifau o ddiddordeb a phwys lleol a chenedlaethol. Gweler wefan Archifau Cymru am fwy o wybodaeth am wasnaethau archifau yng Nghymru.

Archifau Ar Gyfer y 21ain Ganrif

Gyhoeddwyd Archifau ar gyfer y 21ain ganrif yn ddau fersiwn baralel yn Lloegr a Chymru yn 2009. Mae'n amlinellu’r her o flaen y sector archifau, ac yn amlygu’r cyfraniad y gall archifau ei wneud i gymunedau lleol. Gweler y linc ar yr ochr chwith i "Archifau ar gyfer y 21ain Ganrif" am fwy o wybodaeth a'r ddogfen Gymreig.

Dolenni Defnyddiol

Dyma restr o wefannau sydd o ddiddordeb i’r sector archifau.