Skip to content

Casgliadau

Mae casgliadau, boed yn wrthrychau, llyfrau neu ddogfennau, yn ffurfio craidd gwasanaethau amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd.  

CyMAL a Chasgliadau

Gallwn ddarparu cyngor ar sut i ofalu am gasgliadau, a gallwn ddarparu hyfforddiant ar sawl agwedd ar ofalu am gasgliadau. Mae ein Cynghorydd Casgliadau yn gyfrifol am ddarparu cyngor a datblygu polisi ar ofalu am gasgliadau. Mae hi hefyd yn darparu hyfforddiant ymarferol mewn meysydd megis trin a phacio gwrthrychau amgueddfa.

Gallwn hefyd gynnig hyfforddiant ar ofalu am gasgliadau megis gweithdai ymarferol mewn cadw tŷ, cynllunio ar gyfer argyfwng, diogelwch amgueddfa a gofalu am ffotograffau. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â cymal@wales.gsi.gov.uk neu 0300 062 2123.

Cadwraeth

Mae cadwraeth yn sicrhau y caiff etifeddiaeth Cymru ei diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Gweler y dudalen Cadwraeth am ragor o wybodaeth ynghylch cadwraeth, a’r modd yr ydym yn cefnogi prosiectau cadwraeth yng Nghymru. Mae’n cynnwys crynodeb o’r prosiectau a ariennir ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cadwraeth Llawysgrifau (NMCT).

Cynllunio ar gyfer Argyfwng

Mae cynllunio ar gyfer argyfwng yn elfen bwysig o ran cadwraeth ataliol. Gellir cael digwyddiadau sy’n effeithio ar allu amgueddfa, archifdy neu lyfrgell i weithredu fel y dylai’n arferol. Gall casgliadau a gwasanaethau ddod dan fygythiad yn sydyn a bydd disgwyl i'r sefydliad ymateb yn effeithiol ac effeithlon.

Mae’n  bwysig i bob sefydliad casglu feddwl yn y tymor hir a bod yn barod ar gyfer unrhyw sefyllfa sy’n bygwth yr ymwelwyr, y staff, y casgliad a gweithrediad arferol y busnes.

Cyngor Pellach ac Adnoddau Defnyddiol ar gyfer gofalu am gasgliadau a’u rheoli

Darperir rhestr o sefydliadau, gwefannau ac adnoddau a all gynorthwyo eich sefydliad i ofalu am gasgliadau a’u rheoli.

Mae'n cynnwys dolenni at:

  • Adnoddau sydd ar gael gan y Gymdeithas Amgueddfeydd Annibynnol
  • Cyflwyniad i waith y Sefydliad Safonau Prydeinig a gweithgarwch cadwraeth ledled Prydain, gan gynnwys dolenni at safonau perthnasol
  • Canllawiau Diwydrwydd Priodol newydd a gynhyrchwyd gan Gymdeithas yr Amgueddfeydd
  • nodiadau Sefydliad Cadwraeth Canada, Collections Link, Meincnodau Gofalu am Gasgliadau, Y Gofrestr Cadwraeth a’r Ganolfan Ymgynghori ar Gadwraeth.