Skip to content

Grantiau




Mae ein grantiau yn hybu darparu gwasanaethau o ansawdd uchel gan amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd yng Nghymru.

Ein Grantiau

Mae’r cynlluniau canlynol ar gael:

  • Grantiau Arloesi a Datblygu  - ar gyfer amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd
  • Grantiau cyfalaf Llyfrgelloedd Dysgu Cymunedol - ar gyfer llyfrgelloedd cyhoeddus yn unig

Am wybodaeth bellach, cliciwch ar y cyswllt perthnasol

Ffynonellau eraill o grantiau                            

Mae grantiau bach ar gyfer amgueddfeydd ar gael o’r Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau yng Nghymru (gwefan allanol), ac o’r Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru (gwefan allanol) ar gyfer archifau. Ariennir y cynlluniau hyn gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r Cyfeirlyfr Ariannu Treftadaeth (gwefan allanol) yn ganllaw cynhwysfawr i ffynonellau o gymorth ariannol ar gyfer prosiectau creadigol sy'n gysylltiedig â threftadaeth yn y Deyrnas Unedig.


 

Grantiau Arloesi a Datblygu 2013/14

02/04/13
Mae ein grantiau’n galluogi amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd i ddatblygu eu gwasanaethau, casgliadau a’u staff.
 

Grantiau Llyfrgelloedd Dysgu Cymunedol 2013/14

21/11/12
Amcan y rhaglen hon yw darparu cyfleusterau llyfrgelloedd modern, er mwyn denu mwy o bobl i ddefnyddio eu gwasanaethau.
 

Grantiau a ddyfarnwyd i amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd yn 2011/12

02/08/11
Rydym wedi dyfarnu 65 o grantiau i bron 60 o amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd ledled Cymru eleni.