Skip to content

Llyfrgelloedd

Mae llyfrgelloedd yn chwarae rhan allweddol ym mywyd ein cymunedau, gan gyfrannu’n sylweddol at wella ein ansawdd bywyd.

Mae gan Gymru rhwydwaith o lyfrgelloedd cyhoeddus, addysgol ac arbenigol sydd yn darparu mynediad at dewis eang o adnoddau. Mae:

  • dros 320 o lyfrgelloedd cyhoeddus sydd ar agor am 10 awr y wythnos a mwy;
  • dros 110 o lyfrgelloedd addysg uwch a bellach; a 
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru, un o 6 llyfrgell adnau cyfreithiol ym Mhrydain ac Iwerddon.

Mae llyfrgelloedd yng Nghymru’n

  • agored i bob aelod o’u cymunedau ac yn cynnig aelodaeth am ddim
  • rhoi benthyg llyfrau am ddim
  • darparu mynediad am ddim i wybodaeth
  • darparu defnydd am ddim o’r rhyngrwyd a chyfrifiaduron a defnydd am ddim o adnoddau gwybodaeth ar-lein bob awr o’r dydd a’r nos
  • sicrhau mynediad at adnoddau o ansawdd uchel mewn amrywiaeth o fformatau ac yn yr iaith Gymraeg

Rheolir gwasanaethau llyfrgelloedd lleol gan Ddeddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964  sydd yn gofyn awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau llyfrgelloedd cynhwysfawr ac effeithlon. Mae’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth yn arolygu’r gwasanaethau llyfrgelloedd a darparir gan awdurdodau lleol.

Llyfrgell Cymru

Cartref eich llyfrgell chi ar y we yw Llyfrgell Cymru (gwefan allanol.) Mae'r wefan hon yn darparu mynediad at holl wasanaethau ac adnoddau y byddech yn disgwyl eu gweld yn eich llyfrgell leol - a'r cyfan o un lle. Gallwch:

gofyn cwestiynau i staff hyfforddedig llyfrgelloedd
darganfod beth sy'n digwydd yn eich llyfrgell chi
darllen papurau newydd a deunyddiau cyfeiriol eraill heb unrhyw gost i chi.

Llyfrgelloedd yn Ysbrydoli

Mae Llyfrgelloedd yn Ysbrydoli Fframwaith strategol ar gyfer datblygu llyfrgelloedd Cymru 2012-2016 yn amlinellu ein blaenoriaethau dros Llyfrgelloedd yng Nghymru. Cliciwch ar y linc y golofn chwith am wybodaeth bellach.

Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru

Bwriad y Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru yw codi ansawdd a safonau o wasanaethau llyfrgelloedd Cymru ar gyfer pobl Cymru. Rydym yn ein pedwaredd raglen o’r Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru ac asesu’r fframwaith (2011-14). Cliciwch ar ‘Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru’ yn y golofn chwith am wybodaeth ychwanegol.