Skip to content

Llyfrgelloedd yn Ysbrydoli: Fframwaith strategol ar gyfer datblygu llyfrgelloedd Cymru 2012-2016

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae Llyfrgelloedd yn Ysbrydoli yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer llyfrgelloedd yng Nghymru.

Mae llyfrgelloedd cyhoeddus, addysgol a llyfrgelloedd yn y gweithle wrth wraidd eu cymunedau. Maent yn bodoli er mwyn ysbrydoli a helpu pobl i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w bywydau. Mae llyfrgelloedd yn cyfrannu at les cymdeithasol, addysgol, diwylliannol ac economaidd pobl Cymru.

Mae’r strategaeth hon yn disgrifio sut y byddwn yn cynnal a datblygu gwasanaethau arloesol newydd i gwrdd ag anghenion pobl Cymru dros y 5 mlynedd nesaf. Er mwyn cyflawni hyn, mae rhaid i ni gydweithio gyda llyfrgelloedd o bob math, eu rhiant-gyrff, a sefydliadau perthnasol eraill.

Blaenoriaethau’r strategaeth yw:

  • Cydweithio i adolygu modelau cyfredol o ddarparu gwasanaethau mewn ymateb i’r hinsawdd economaidd bresennol, a datblygu modelau newydd arloesol
  • Datblygu’r cydweithio wrth bwrcasu a gwella mynediad at adnoddau, gan gynnwys gwasanaethau ar-lein fel e-lyfrau
  • Moderneiddio llyfrgelloedd cyhoeddus er mwyn cwrdd ag anghenion defnyddwyr
  • Cynyddu cyfraniad llyfrgelloedd mewn datblygu sgiliau pobl i helpu iddynt wireddu eu potensial, lleihau anghydraddoldeb a gwella lles economaidd a chymdeithasol.
  • Buddsoddi mewn sgiliau staff llyfrgelloedd
  • Gweithredu rhaglen datblygu cynulleidfaoedd ledled Cymru i gyfoethogi bywydau unigolion a chymunedau
  • Sicrhau darparu gwasanaethau o ansawdd uchel trwy gynlluniau fel Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru.

Cynllun Cyflenwi

Mae’r Cynllun Cyflenwi’n amlinellu gweithrediadau a’r targedau sy’n allweddol i gyflawni’r blaenoriaethau a nodir yn y strategaeth. Bydd yn cael ei ddiweddaru'n gyson i adlewyrchu datblygiadau a blaenoriaethau newydd yn ystod cyfnod y Fframwaith. Mae’r Cynllun hefyd yn gyfle ardderchog i amlygu’r gweithgaredd penodol gan y sector.