Skip to content

Amgueddfeydd

Dolenni perthnasol

Mae Amgueddfa Cymru'n gyfrifol am gadw, cyflwyno a hyrwyddo diwylliant Cymru ledled y byd.
Mae twristiaeth yn ddiwydiant hynod gystadleuol, deinamig a newidiol.

Mae amgueddfeydd yn hyrwyddo bywyd diwylliannol Cymru, gan warchod ein treftadaeth, darparu addysg, ac yn cyfrannu at ein diwydiant ymwelwyr.

Maent yn lleoliad ar gyfer ysbrydoliaeth, dysgu a mwynhad i bawb. Yr ydym yn gweithio’n agos â’r sector amgueddfeydd, gan eu cefnogi yn eu hymdrechion i ddatblygu gwasanaethau a chasgliadau. Mae gwybodaeth am sut yr ydym yn cefnogi amgueddfeydd yma.

Strategaeth Amgueddfeydd Cymru 2010-2015

Yr ydym yn cydweithio a’r gymuned amgueddfeydd yng Nghymru a thu hwnt yn i greu cyfeiriad strategol ar gyfer amgueddfeydd. Dyma’r strategaeth gyntaf o’r fath ar gyfer amgueddfeydd yng Nghymru. Am fwy o wybodaeth, ac i lawr-lwytho’r ddogfen, ewch i dudalen y Strategaeth Amgueddfeydd.

Achredu Amgueddfeydd

Achredu yw cydnabyddiaeth gyhoeddus i'r ffaith bod amgueddfa'n cyrraedd safonau a gymeradwywyd mewn rhai meysydd allweddol o ran rheoli'r amgueddfa, gofalu am gasgliadau a gwasanaethau i'r cyhoedd. Os ydych yn rhan o'r gwaith o Achredu Amgueddfeydd, neu os hoffech wybod mwy am y Cynllun, edrychwch ar y tudalennau sydd wedi'u neilltuo ar gyfer Achredu Amgueddfeydd.

Amgueddfa Cymru

Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru (CNLC) yw Amgueddfa Cymru, ac mae'n gyfrifol am gadw, cyflwyno a hyrwyddo diwylliant Cymru.

Sefydlu Amgueddfeydd

Mae creu amgueddfa newydd yn fenter gostus sy’n cymryd llawer o amser ac yn ymrwymiad hirdymor. Os ydych yn ystyried mynd ati i greu amgueddfa newydd dyma ychydig o wybodaeth i’ch helpu i ystyried yr holl agweddau cysylltiedig. Dylech fod yn ymwybodol fodd bynnag nad yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi sefydlu amgueddfeydd newydd fel rheol.

Gwasanaeth Gwybodaeth ar gyfer Amgueddfeydd

Mae CyMAL yn cynnal Gwasanaeth Gwybodaeth ar gyfer amgueddfeydd. I gael rhagor o fanylion ac i lawrlwytho'r bwletin diweddaraf gwelwch y tudalen Gwasanaeth Gwybodaeth. 

Sbotolau ar Amgueddfeydd

Arolwg cynhwysfawr o amgueddfeydd yng Nghymru yw Sbotolau ar Amguedfeydd. Rydym wedi cyhoeddi'r arolwg cyntaf yn 2006, a'r ail yn 2013.

Amgueddfeydd yng Nghymru

Mae map rhwngweithiol sy'n dangos lleoliad amgueddfeydd yng Nghymru ar gael ar wefan Culture 24 (dolen allanol).

Y Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Cymru

Sefydliad ar gyfer holl weithwyr yr amgueddfeydd yng Nghymru, cyflogedig a gwirfoddol yw’r Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Cymru. Mae'n bodoli er mwyn hyrwyddo arferion da yn yr amgueddfeydd a'r orielau ledled y wlad a chynnig talwrn trafod ar gyfer materion o bwys i'r aelodau.

Ymwelwch â gwefan y Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Cymru (dolen allanol).

Cynllun Sicrhau Ansawdd i Atyniadau Ymwelwyr (VAQAS) Cymru i Amgueddfeydd

Mae VAQAS Cymru, sy’n cael ei weinyddu gan Groeso Cymru, yn estyniad o’r safonau ar gyfer ymwelwyr a defnyddwyr a gyflawnwyd eisoes ar gyfer Achredu Amgueddfeydd. Bydd cymryd rhan yn y ddau gynllun yn helpu amgueddfeydd i greu profiadau hyd yn oed yn well ar gyfer ymwelwyr o’r tu hwnt i Gymru ac ymwelwyr ag amgueddfeydd o’n cymunedau lleol. Ewch i’r dudalen ar VAQAS Cymru i Amgueddfeydd i gael rhagor o wybodaeth.