Skip to content

Casgliad y Werin Cymru

Dolenni perthnasol

Mae Amgueddfa Cymru'n gyfrifol am gadw, cyflwyno a hyrwyddo diwylliant Cymru ledled y byd.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn chwarae rhan bwysig ym mywyd diwylliannol ac addysgol Cymru.
Yn egluro ac yn cadw gwybodaeth am dreftadaeth adeiledig Cymru.
Diben platfform digidol Casgliad y Werin Cymru yw casglu, dehongli ac arddangos hanes Cymru.

Gwefan arbennig ar gyfer hanes Cymru a’i phobl yw gwefan Casgliad y Werin Cymru (CyWC) - ac mae’n rhad ac am ddim i’w defnyddio. Mae’n lle i ddarganfod, dysgu a chyfrannu hanes eich Cymru gyferbyn straeon ac eitemau cyfrannwyd gan bobl a sefydliadau eraill. Mae Casgliad y Werin Cymru yn fodd gwahanol o gasglu, dehongli a thrafod treftadaeth ddiwylliannol Cymru ar-lein.

Arweinir gan sefydliadau treftadaeth genedlaethol Cymru, mae Casgliad y Werin Cymru yn dod â phartneriaid o wahanol feysydd ynghyd er mwyn rhannu offer, adnoddau, sgiliau ac arbenigedd. Bydd y rhaglen yn parhau i ddatblygu dulliau cyffrous sy’n dod a’n treftadaeth a’n hanes yn fyw.

Ariennir Casgliad y Werin Cymru gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n ymrwymiad allweddol yn y Rhaglen Llywodraethu 2011-2016. Mae gweithgareddau’r rhaglen yn cefnogi agendâu allweddol megis cynhwysiad digidol, dysgu gydol oes, twristiaeth ddiwylliannol ac yn arloesi amrywiaeth o ddyfeisiadau technolegol blaengar trwy gydweithio.

Lle rydyn ni arni nawr?

Rheolwyd y cam cychwynnol o ddatblygu’r wefan sef 2008-09 hyd at 2010-11 gan CyMAL. Lansiwyd y wefan yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst 2010 ac mae’n parhau i gael ei diweddaru a’i datblygu.

O 1 Ebrill 2011, mae Casgliad y Werin Cymru yn cael ei gyflwyno gan bartneriaeth a arweinir gan dri sefydliad cenedlaethol diwylliant a threftadaeth:

  • Amgueddfa Cymru
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Bydd pob partner arweiniol yn derbyn arian wrth Llywodraeth Cymru i arwain ar feysydd gwaith penodol sy’n cyfrannu tuag at y rhaglen gyffredinol. Gyda’i gilydd, bydd y partneriaid yn gyfrifol am ddarparu’r gwasanaeth ac am ei ddatblygu a chyd-gysylltir y gwaith hwn gan Gyfarwyddwr y Rhaglen, sef Rheinallt Jones.

Mae CyMAL yn parhau i gefnogi ac i fonitro’r prosiect ac mae’n gweithio’n agos gyda’r bartneriaeth sydd wedi’i ffederaleiddio.

Sut gall fy sefydliad gymryd rhan?

Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu dulliau o’i gwneud hi’n haws i amgueddfeydd lleol, archifau a llyfrgelloedd gyfrannu mathau gwahanol o ddeunyddiau o’u casgliadau eu hunain a chynorthwyo cyrff eraill i wneud yr un peth. Yn ystod 2011-12, cynhaliwyd prosiectau peilot sydd yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol ac yn rhoi profiad i’r sefydliadau fydd yn cymryd rhan. Dros y misoedd nesaf, bydd Casgliad y Werin Cymru yn darparu mwy o wybodaeth i ddarpar randdeiliaid a chyfranogwyr.

Anfonwyd copi’r pecyn marchnata cyntaf Casgliad y Werin Cymru at amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd yng Nghymru, ac i bartneriaid a chyfranddalwyr eraill. Mae’r pecyn marchnata yn amlinellu buddion o gymryd rhan yn y rhaglen; cyflwyno sut i ddefnyddio’r gwefan ac offeru ar-lein; ac yn rhoi manylion o gefnogaeth sy’n ar gael.

Mae cymorth pellach ar gael ar ein tudalen Adnoddau Casgliad y Werin Cymru (ar y menu ar y chwith.)

Grantiau

Mae CyMAL yn cynnig grantiau er mwyn annog amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd lleol gweithio gyda sefydliadau yn y sector gwirfoddol i greu cynnwys newydd ar gyfer Casgliad y Werin Cymru. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen Grantiau.

Gwybodaeth bellach

Anfonwch unrhyw gwestiynau sydd gennych at Gyfarwyddwr y Rhaglen, Rheinallt Jones rheinallt.ffoster-jones@museumwales.ac.uk neu defnyddiwch y ffurflen gysylltu (wefan allanol) sydd ar wefan Casgliad y Werin Cymru.

Dolenni defnyddiol

Blog Casgliad y Werin Cymru (wefan allanol)
Cwestiynau Cyffredin ynghylch Casgliad y Werin Cymru (wefan allanol)