Skip to content

Datblygiad Proffesiynol a Digwyddiadau Hyfforddi




Mae'r rhaglen Datblygiadau Proffesiynol wedi'i dylunio er mwyn hybu arferion gorau ar draws y sector amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd yng Nghymru.

Hyfforddi

Rydym yn cynnig dewis eang o gyrsiau hyfforddi i'r sector  amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd yng Nghymru. Gall y cyrsiau fod ar faes penodol, yn draws-sectoraidd neu generig megis datblygu rheolaeth. Hefyd, rydym yn gallu trefnu cyrsiau i gwrdd â gofynion y sefydliad. Bydd y digwyddiadau hyn ar agor i staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio mewn amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd Cymru. Nid yw CyMAL yn codi tâl am y cyrsiau hyn.

Mae gwybodaeth am ddigwyddiadau hyfforddi gerllaw ar gael isod.

Datblygu

Medr y Cynghorydd Hyfforddi a Datblygu darparu gwybodaeth a chyngor ar  cymwysterau proffesiynol, datblygu gyrfa, safonau galwedigaethol, a llawer mwy. Cynigir cyngor a chefnogaeth i annog sefydliadau'r sector i ffurfio a gweithredu polisïau hyfforddi a datblygu.

Bwrsariaethau Sgiliau'r Gweithlu

Mae grantiau a bwrsariaethau ar gael i staff a gwirfoddolwyr i fynychu cyrsiau a chynadleddau i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth broffesiynol, ac i astudio i gael cymwysterau proffesiynol. Ewch i'r adran Grantiau a gwelwch y Wybodaeth I Ymgeiswyr ar gyfer pob cynllun am fwy o wybodaeth.

Digwyddiadau Datblygiad Proffesiynol

Mae gwybodaeth am ddigwyddiadau gerllaw isod. Er mwyn cadw lle ar ddigwyddiad CyMAL, anfonwch e-bost at cymal@wales.gsi.gov.uk. Dylech gynnwys yr wybodaeth ddilynol: Manylion y Digwyddiad, Enw, Teitl, Sefydliad a Manylion Cyswllt. Nodwch hefyd unrhyw anghenion sydd gennych o ran mynediad neu ddiet, neu unrhyw alergedd.

Yn ogystal â'r digwyddiadau sydd wedi'u hamserlennu gallwn ddarparu hyfforddi, sydd wedi'u teilwra i ofynion, y gellir eu cyflwyno yn fewnol neu mewn partneriaeth â chyrff eraill yn eich ardal chi. Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, cysylltwch â CyMAL ar 0300 062 2112 neu cymal@wales.gsi.gov.uk


 

Rheoli Storfeydd (PD5454 a PAS198) - gogledd Cymru

29/04/13
Bydd y cwrs hwn yn edrych ar y safonau diweddaraf ar gyfer rheoli’r amgylchedd ar gyfer casgliadau.
 

Rheoli Storfeydd (PD5454 a PAS198) - de Cymru

29/04/13
Bydd y cwrs hwn yn edrych ar y safonau diweddaraf ar gyfer rheoli’r amgylchedd ar gyfer casgliadau.
 

Diwrnod gwarchod, trin a thrafod - de Cymru

10/04/13
Gweithdy ar ofalu am a thrin casgliadau ar gyfer archifau a llyfrgelloedd
 

Diwrnod gwarchod, trin a thrafod - gogledd Cymru

10/04/13
Gweithdy ar ofalu am a thrin casgliadau ar gyfer archifau a llyfrgelloedd
 

Creu arddangosfa am y nesaf peth i ddim - de Cymru

10/04/13
Diwrnod hwyliog ac ymarferol i bobl sy’n gweithio mewn amgueddfeydd er mwyn eu helpu i greu arddangosfeydd o’u casgliadau sy’n rhad, yn effeithiol ac yn ddiogel.
 

Creu arddangosfa am y nesaf peth i ddim - gogledd Cymru

10/04/13
Diwrnod hwyliog ac ymarferol i bobl sy’n gweithio mewn amgueddfeydd er mwyn eu helpu i greu arddangosfeydd o’u casgliadau sy’n rhad, yn effeithiol ac yn ddiogel.