Skip to content

Digwyddiadau yn yr Ardd

Dolenni perthnasol

Rydym wedi sicrhau mai datblygu cynaliadwy yw ein prif egwyddor drefniadol. Mae hyn yn golygu ei fod yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud a’r penderfyniadau yr ydym yn dod iddynt.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am yr amgylchedd, datblygu ac adfywio gwledig, ffermio, iechyd anifeiliaid, coedwigaeth, pysgodfeydd a chynhyrchu bwyd.
Teulu yn yr Ardd Fotaneg yn yr haf
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yw un o'r prosiectau mwyaf yng Nghymru ar gyfer dathlu'r Mileniwm.

Perfformiadau

Drwy gydol y flwyddyn, mae'r Ardd yn cynnal rhaglen fywiog o gelf, cerddoriaeth, dawnsio a theatr. Gweler y rhaglen gyflawn ar wefan yr Ardd, a detholiad isod.

Trywyddau

Yn y gwanwyn, mae dewis o dri trywydd gan ymwelwyr.

  • Trywydd Technoleg Werdd. Dilynwch ein cymeriad cartwn newydd, Lili Lloyd. Gwnaiff hi ddangos ichi sut rydym yn cynhyrchu micro-ynni, yn cadw dwr, yn tyfu'n organig ac yn adeiladu'n gynaliadwy.
  • Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las. Rhwydwaith o lwybrau sy'n eich tywys ar hyd ein caeau sy'n cael eu ffermio'n organig a thrwy coetir hynafol Pont Felin Gat sy'n llawn creiriau hanesyddol Parc Middleton o gyfnod y Rhaglywiaeth. 
  • Trywydd Sculpture Cymru. Yn cynnwys cerfluniau awyr agored a grëwyd gan Sarah Tombs, Lyndon Mabley, Pete Sainty, Sophie Myfanwy Wellen, PaulKincaid, Georgina Park, Dilys Jackson, Deborah Lewis a Susan Roberts.

Sgyrsiau

Cysylltwch ymlaen llaw os hoffech drefnu teithiau a sgyrsiau arbennig i grwpiau.

From Another Kingdom

'O Deyrnas Arall' yw’r arddangosfa gyntaf o bwys yn y Deyrnas Unedig sy'n canolbwyntio ar fyd rhyfeddol ffwng. Bydd yr arddangosfa'n agor yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ddydd Sadwrn, 19 Mawrth 2011 i Chwefror 2013. Mae'r Tŷ Gwydr Enfawr bellach yn ddrysfa o wahanol ardaloedd â thema benodol iddynt, lle gall ymwelwyr ddod wyneb yn wyneb â

  • hud a lledrith gwahanol fathau o ffwng a chwedlau amdanynt
  • swyddogaeth ffwng mewn ecosystemau ac ailgylchu
  • y defnydd a wneir o ffwng mewn meddyginiaethau ac i drin clefydau.  

Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys coedwig o fwyd y boda anferthol, madarch sy’n goleuo yn y tywyllwch, a fersiwn o Russian roulette lle mae ffwng gwenwynig yn cael ei ddefnyddio.

I gael rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau, sgyrsiau ac arddangosfeydd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ewch i'w gwefan.

Ewch i: Digwyddiadau Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru (dolen allanol)