Skip to content

5x60: Y Rhaglen Chwaraeon ar gyfer Ysgolion Uwchradd

Dolenni perthnasol

Hybu a gwarchod iechyd a lles plant a phobl ifanc drwy raglenni a gweithgareddau hybu iechyd mewn ysgolion.
logo 5x60
Nod y rhaglen 5x60 yw cynyddu nifer y disgyblion oedran uwchradd sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgareddau corfforol am 60 munud o leiaf bum gwaith yr wythnos.

Mae cynllun Chwaraeon Cymru yn rhoi mwy o gyfleoedd i blant oedran cynradd gymryd rhan mewn sesiynau chwaraeon a gweithgareddau corfforol all-gyrsiol. Mae'r rhaglen yn adeiladu ar gynllun Chwaraeon y Ddraig. 

Yn ôl adroddiadau Cyngor Chwaraeon Cymru mae 99% o ysgolion uwchradd prif ffrwd yng Nghymru wedi ymuno â'r cynllun 5x60.

Swyddogion 5x60 Glyn ac Imogen o Big Brother yn dawnsio gyda plant ysgol

Caiff y rhaglen ei rheoli'n lleol gan swyddogion 5x60 yr awdurdodau lleol, sydd wedi'u lleoli mewn ysgolion penodol. Maent yn cydweithio â rhanddeiliaid lleol i greu cyfleoedd sy'n diwallu anghenion disgyblion ac yn ymateb i'w dewisiadau. Mae'r swyddogion hefyd yn rhoi rhan i rieni, myfyrwyr, hyfforddwyr lleol a swyddogion clybiau chwaraeon wrth fynd ati i ddatblygu'r gweithgareddau.

Mae'r rhaglen 5x60 yn ategu'r ddarpariaeth chwaraeon ac addysg gorfforol sydd ar gael mewn ysgolion ar hyn o bryd drwy gynnig ystod o weithgareddau i bob plentyn, ni waeth beth yw ei allu. Un o'r egwyddorion allweddol yw mai'r disgyblion eu hunain sy'n dewis y gweithgareddau. Maent yn cynnwys:-

  • chwaraeon cystadleuol;
  • gweithgareddau hamdden anffurfiol (megis dawns, ymarferion aerobig etc);
  • gweithgareddau o dan arweiniad hyfforddwr; 
  • gweithgareddau yn yr awyr agored.

Mae'r rhaglen hefyd yn rhoi cyfle i bobl ifanc feithrin sgiliau arweinyddiaeth er mwyn iddynt fedru arwain gweithgareddau yn eu hysgolion eu hunain.

Ariannu

Mae'r rhaglen 5x60 yn rhaglen gwerth £4.9 milwn sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am yr ysgolion sy'n cymryd rhan ac am y mathau o weithgareddau sy'n cael eu cynnig, ewch i'r gwefannau isod.

Ewch i wefan Chwaraeon Cymru (dolen allanol)

Ewch i wefan 5X60 ar gyfer pobl ifanc (dolen allanol)