Addysg a sgiliau
O fewn Llywodraeth y Cynulliad, yr Adran Plant, Addysg, Dysgu gydol Oes a Sgiliau (APADGOS) sy'n gyfrifol am addysg a sgiliau yng Nghymru.
Yn yr adran hon o’r wefan, cewch wybodaeth am ein polisïau addysg a’r cymorth y gallwn ni ei gynnig i chi.
Amcan ein polisïau yw codi lefelau cyflawni yng Nghymru a sicrhau'r dedwyddwch cymdeithasol sy'n hanfodol i ddatblygu economi ffyniannus. Rydym yn hyrwyddo diwylliant o ddysgu gydol oes i wella cyfleoedd pobl ym mhob cam o'u bywydau.
Y newyddion diweddaraf
28/01/10
Mae Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, wedi cyhoeddi adolygiad annibynnol pwysig o'r modd y caiff cyllid ar gyfer addysg yng Nghymru ei ddyrannu i ysgolion, colegau a phrifysgolion.
12/01/10
Mae Wythnos Prentisiaethau Cymru yn clodfori sgiliau a brwdfrydedd y bobl sy’n dysgu gan eu cyflogwyr, ond sydd hwythau’n gaffaeliad i’r swydd.
Ymgynghoriad
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â Chanllawiau Statudol ar Wasanaethau Cymorth Ieuenctid i bobl ifanc 11-25.
Ymgynghoriad ar 3 agwedd yw’r ddogfen hon a’r nod yw cefnogi ysgolion, awdurdodau lleol a’u partneriaid i ddarparu amgylchedd diogel i blant a phobl ifanc.
Eir ati yn yr ymgynghoriad hwn i geisio’ch barn am gyfarwyddyd ymarfer drafft a luniwyd gan y Grŵp Cynghori ar Weithredu ym maes Anabledd Dysgu ar y cyd â swyddogion Llywodraeth y Cynulliad.
