Skip to content

Addysg Ewropeaidd a Rhyngwladol

Y byd
Wrth i ymgysylltu diwylliannol ac ymgysylltu ym meysydd technoleg a thrafnidiaeth wella o hyd, mae’n teimlo bod y byd yn mynd yn gynyddol lai. Nid yw erioed wedi bod mor bwysig i bobl Cymru gymryd eu lle fel dinasyddion byd-eang mewn marchnad fyd-eang. Ym meysydd addysg a datblygu polisi Ewropeaidd a rhyngwladol rydym yn canolbwyntio ar gynorthwyo dinasyddion Cymru i gael y sgiliau a’r wybodaeth y mae eu hangen i chwarae eu rhan ar lwyfan y byd.

Pwy ydym ni?

Mae cyfrifoldeb am ymgysylltu Ewropeaidd a rhyngwladol ym maes addysg yn cael ei reoli gan wahanol dimau polisi ar draws yr adran, a’i gydgysylltu gan uned fach, yr Uned Addysg Ryngwladol.

Mae’r Uned hon hefyd yn cydweithio’n agos ag Is-adran Materion Ewropeaidd ac Allanol Llywodraeth y Cynulliad ar faterion ehangach sy’n ymwneud ag ymgysylltu Ewropeaidd a rhyngwladol.

Beth yw budd addysg Ewropeaidd a rhyngwladol i Gymru?

Dyma brif fuddion ymgysylltu ym maes addysg Ewropeaidd a rhyngwladol:

• gwell ymwybyddiaeth o faterion byd-eang a diwylliannau, gan arwain at fwy o oddefgarwch a chynhwysiant cymdeithasol;
• mwy o gyfleoedd i weithio, hyfforddi, addysgu ac astudio mewn gwledydd eraill;
• hyrwyddo Cymru fel lle i ymweld ag ef, ac i astudio a dysgu ynddo;
• cwricwlwm â sail ehangach, gan ddefnyddio’r dimensiwn rhyngwladol ym myd addysg fel ffordd o ddysgu;  
• gwell effeithiolrwydd ysgolion a chyrhaeddiad dysgwyr;
• gwell cyfleoedd ar gyfer masnacheiddio, gan gynnwys ehangu sylfaen ymchwil Cymru a statws rhyngwladol sefydliadau.


Oes yna gymorth?

Mae cymorth ar gael ar gyfer gweithgarwch addysg Ewropeaidd a rhyngwladol yng Nghymru gan randdeiliaid yng Nghymru, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd.