Skip to content

Y Rhaglen Addysg Ryngwladol: Cwestiynau cyffredin

Dolenni perthnasol

Diben y ddogfen hon yw helpu rhanddeiliaid i gwblhau eu ceisiadau am gyllid grant o dan y Rhaglen.
Mae’r dudalen hon yn rhestru rhai cwestiynau cyffredin ynghylch y Rhaglen Addysg Ryngwladol.

Pam nad yw’r rhaglen yn caniatáu i sefydliad unigol gyflwyno cais?

Un o brif ddibenion y Rhaglen Addysg Ryngwladol yw annog rhagor o sefydliadau i gydweithio mewn partneriaethau. Mae’r Rhaglen yn caniatáu i sefydliadau unigol gyflwyno ceisiadau o dan amgylchiadau eithriadol, ond mae ceisiadau gan bartneriaethau yn debygol o fod yn fwy cryf.

 

Golyga’r ffaith mai £250,000 yw’r lefel is o gyllid ei bod yn anodd i sefydliadau llai gyflwyno cynigion. Beth yw’r rheswm am hyn?

Rydym yn awyddus iawn i weld rhagor o sefydliadau’n cydweithio mewn partneriaethau, gydag adnoddau’r Rhaglen Addysg Ryngwladol yn cael eu defnyddio ar gyfer cyflawni. Mae cynigion gan gonsortia a gyflwynir gan sefydliad partner arweiniol yn fwy tebygol o allu gwneud hyn.

 

 phwy y gallaf siarad ynghylch cymhwystra math arbennig o weithgaredd?

Gall pob cwestiwn sy’n ymwneud â’r Rhaglen Addysg Ryngwladol gael eu hanfon i gyfeiriad e-bost y Rhaglen:  international.education@wales.gsi.gov.uk

Bydd swyddogion AdAS yn cysylltu â chi i drafod eich ymholiad.

 

Mae fy sefydliad wedi ymwneud â gwaith yn y maes hwn ers sawl blwyddyn, ac mae wedi cefnogi gweithgareddau llwyddiannus. Pam nad yw’r rhaglen newydd hon yn cydnabod hynny’n glir?

Mae telerau’r Rhaglen Addysg Ryngwladol yn cydnabod bod gweithgaredd llwyddiannus eisoes ar waith, a bod modd ei ddatblygu. Mae’r rhaglen newydd yn ceisio rhoi rhagor o ffocws i’r gwaith hwnnw, gan ei wneud yn fwy effeithlon a datblygu’r gwaith partneriaeth. Gan fod y Rhaglen Addysg Ryngwladol yn ymwneud â chyllid ar gyfer y 3 blynedd nesaf, ni fyddai’n briodol i’w thelerau gyfeirio at sefydliad a ariannwyd gan AdAS yn 2011/12.

 

Sut y mae AdAS wedi hybu’r rhaglen?

Mae manylion y Rhaglen Addysg Ryngwladol ar gael ar dudalennau AdAS ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae hysbysiadau wedi’u cynnwys yn e-gylchlythyr Dysg, ac mae datganiad i’r wasg wedi’i gyhoeddi.

 

Pam cynnal proses ymgeisio ag iddi dri cham gyda Phanel Asesu, gan ei bod yn gwbl glir pa sefydliadau fydd yn cyflwyno cais?

Gŵyr AdAS fod sawl sefydliad eisoes yn weithgar yn y maes hwn a byddwn yn croesawu unrhyw gynigion a gyflwynir ganddynt o dan y Rhaglen Addysg Ryngwladol. Eto i gyd, mae proses ymgeisio agored yn creu cyfle i brofi dulliau a chynigion newydd.

Bwriad y broses asesu ag iddi dri cham yw lleihau’r gwaith i’r sefydliadau a fydd yn cyflwyno cais, a hefyd rhoi cyfle i’r Panel Asesu asesu’r cynigion ar sail eu teilyngdod. Bwriedir hefyd chwilio am feysydd cyffredin y gallai fod yn fwy priodol eu cyflawni drwy waith partneriaeth.

 

Pwy fydd yn penderfynu pa grantiau a ddyfernir o dan y Rhaglen Addysg Ryngwladol?

Bydd y Panel Asesu yn cyflwyno argymhellion i Weinidogion Cymru, a hwy fydd yn penderfynu pa grantiau a gaiff eu cynnig o dan y Rhaglen.

Bydd penderfyniadau Gweinidogion Cymru yn derfynol.

 

Mae gennym gytundeb partneriaeth ar gyfer darparu gweithgaredd cymorth sy’n cyd-fynd â maes gweithgaredd y Rhaglen Addysg Ryngwladol? Sut y dylid datblygu hyn o dan y Rhaglen Addysg Ryngwladol?

Gwaith partneriaeth yw un o themâu allweddol y Rhaglen Addysg Ryngwladol. Byddem yn disgwyl i bartneriaethau effeithiol presennol gyfrannu at delerau cynigion o dan y Rhaglen, drwy sefydliad arweiniol yn fwy na thebyg. Caiff y cynigion hyn eu cymeradwyo a’u cefnogi gan sefydliadau partner.

 

Mae fy sefydliad yn gweithio mewn partneriaeth agos â sefydliad arall yn y maes hwn, ond mae’r ddau sefydliad yn awyddus i gyflwyno ceisiadau ar wahân fel partneriaid arweiniol sy’n ymwneud ag agweddau gwahanol, ond cysylltiedig, ar y Rhaglen Addysg Ryngwladol. Ydy hyn yn bosibl?

Ydy, gall y ddau sefydliad gefnogi cynnig partneriaeth ei gilydd cyn belled â bod dim dyblygu o ran y gweithgareddau arfaethedig a fyddai’n cael eu cyflawni gan y partner arweiniol. Mae’r Mynegiant o Ddiddordeb a’r Cais yn creu cyfle i sefydliadau arweiniol sy’n cyflwyno cais amlinellu manylion y partneriaethau a disgrifio pa weithgareddau y bydd bob partner yn eu harwain/eu cefnogi.

 

Beth fydd yn digwydd i’r cytundebau presennol ar gyfer cyflawni prosiectau?

Mae gwaith partneriaeth yn agwedd allweddol ar y Rhaglen Addysg Ryngwladol. Lle y mae cytundebau partneriaeth eisoes i’w cael a’u bod yn gweithio’n dda, dylent gael eu cynnwys mewn cynigion o dan y Rhaglen Addysg Ryngwladol.

 

Sut y bydd AdAS yn sicrhau na fydd lleihad mewn gwasanaethau rheng flaen wrth i’r trefniadau newydd gael eu cyflwyno?

Mae llawer iawn o weithgareddau da eisoes yn cael eu cynnal yn y maes hwn, a dylid eu datblygu wrth baratoi cynigion partneriaeth o dan y Rhaglen Addysg Ryngwladol. Rhagwelir y bydd y broses asesu a’r argymhellion i’r Gweinidog ynghylch cyllid yn y dyfodol yn cael eu cwblhau ymhell cyn dechrau’r flwyddyn ariannol nesaf er mwyn hwyluso’r gwaith cynllunio. Yn yr un modd, bydd y cyllid ar gyfer 3 blynedd a gynigir o dan y Rhaglen Addysg Ryngwladol yn hwyluso’r gwaith o ddarparu gwasanaethau yn y tymor hwy.

 

Pam oes rhaid cynnwys sefydliadau bach sy’n derbyn symiau bach iawn o gyllid yn y newidiadau hyn? Pam na allwn barhau i gael ein hariannu yn yr un modd os yw’r dull hwn eisoes yn effeithiol?

Mae nifer mwy o grantiau llai yn llai effeithlon ar lefel weinyddol ac nid ydynt o anghenraid yn annog gwaith cynllunio ar draws sefydliadau a fyddai’n helpu i fodloni anghenion ymarferwyr a dysgwyr. Trwy ddatblygu dull partneriaeth o fynd i’r afael â chynigion o dan y Rhaglen Addysg Ryngwladol, bydd y gweithgareddau a gaiff eu cynnal dros y 3 blynedd nesaf yn cael eu cydgysylltu’n well, a bydd rheolwyr yn gallu canolbwyntio rhagor ar eu cyflawni.