Skip to content

Gwerthuso’r Cyfnod Sylfaen

Mae gwerthusiad tair blynedd annibynnol ar y Cyfnod Sylfaen yn cael ei gynnal ar hyn o bryd.

Rydym wedi penodi Prifysgol Caerdydd ar y cyd â Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru i fwrw ymlaen â'r gwerthusiad.

Bydd y broses werthuso yn:

  • ystyried sut caiff y Cyfnod Sylfaen ei roi ar waith
  • awgrymu ffyrdd i wella
  • ystyried effaith y Cyfnod Sylfaen
  • ystyried gwerth am arian
  • cadw llygaid ar effaith y Cyfnod Sylfaen yn y dyfodol.

Er mwyn gwneud hyn, bydd angen i leoliadau'r Cyfnod Sylfaen a'u hymarferwyr roi mewnbwn a chefnogaeth i'r tîm gwerthuso.

Dweud eich dweud

Yn ystod tymor yr haf, bydd arolwg yn cael ei anfon drwy'r post i holl leoliadau'r Cyfnod Sylfaen. Yn ogystal, tua diwedd 2012, bydd tua deugain lleoliad yn cael eu dewis ar hap i fod yn rhan o astudiaeth achos y gwerthuso. Pe baech yn cael eich dethol ac yna'n cytuno i gymryd rhan, bydd y tîm gwerthuso yn ymweld â chi yn eich lleoliad ac edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn y Cyfnod Sylfaen o ddydd i ddydd, a hynny o bersbectif ymarferwyr, plant a rhieni/gofalwyr.  

Bydd y tîm gwerthuso yn cael cyngor a chanllawiau gan Gynghorwyr Cyfnod Sylfaen Cymru Gyfan (AWFPA), Estyn, prifathrawon ac ymarferwyr ymysg eraill.  

Rydym yn gobeithio y byddwch yn mynd i'r afael â'r broses werthuso ac yn gobeithio y bydd yn brofiad pleserus ac o fantais ichi. Os hoffech fwy o wybodaeth am y broses werthuso, ewch i wefan WISERD.

Cysylltiadau gwerthusiadau

Os bydd gennych unrhyw gwestiwn am y broses werthuso, gallwch gysylltu â:

Launa Anderson
Rheolwr Prosiect
Ffôn: 029 2082 5274
e-bost: Research.Evaluation@wales.gsi.gov.uk

Neu gallwch chi gysylltu ag arweinydd y tîm gwerthuso ym Mhrifysgol Caerdydd:

Dr Chris Taylor
Ffôn: 029 2087 0940
e-bost: fpevaluation@cardiff.ac.uk