Skip to content

Lwfans Cynhaliaeth Addysg

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCS) yn gynllun sy’n cynnig cymhelliant i bobl ifanc sy’n dymuno parhau mewn addysg ar ôl oed gadael ysgol i ennill gwobrau drwy bresenoldeb da.

Yng Nghymru byddant yn parhau ond maent yn newid o fis Medi 2011.

Myfyrwyr Newydd

Os nad ydych wedi cael LCA erioed o’r blaen, efallai byddwch chi’n gymwys am Lwfans Cynhaliaeth Addysg o £30 os ydych yn 16, 17 neu 18 oed ar 31 Awst 2011 ac yn parhau i astudio’n amser llawn neu o leiaf 12 awr yr wythnos yn y coleg.

  • Os chi yw’r unig berson ifanc mewn addysg amser llawn yn eich cartref chi a bod eich incwm cartref yn £20,817 neu’n llai, gallech chi gael £30 yr wythnos;
  • Os oes pobl ifanc eraill yn eich cartref chi sydd o dan 16 ac yn gymwys am Fudd-dal Plant a bod eich incwm cartref yn llai na £23,077, gallech chi gael £30 yr wythnos;
  • Os oes pobl ifanc eraill yn eich cartref chi sydd rhwng 16 ac 20 oed, mewn addysg amser llawn ac sy’n gymwys am Fudd-dal Plant a bod eich incwm cartref yn llai na £23,077, gallech chi gael £30 yr wythnos;

Bydd ffurflenni cais ar gyfer y Flwyddyn Academaidd sy’n dechrau ym mis Medi 2011 ar gael yn y Flwyddyn Newydd. Pan fyddant ar gael gallwch lwytho ffurflen gais a nodiadau cyfarwyddyd i lawr o’n gwefan Chyllid Myfyrwyr Cymru neu gallwch gasglu pecyn ymgeisio o’ch ysgol neu goleg.

Taliadau Bonws

Mae taliadau bonws perfformiad yn cael eu dileu o ddiwedd BA2010/2011. Y taliadau bonws diwethaf a wneir i unrhyw fyfyrwyr fydd y rheini a gadarnheir gan eu hysgolion neu golegau ym mis Gorffennaf 2011. Ni fydd taliadau bonws pellach yn cael eu gwneud i unrhyw fyfyriwr yn BA2011/2012.

Myfyrwyr sy’n Dychwelyd

Os ydych eisoes wedi cael Lwfans Cynhaliaeth Addysg o £10, £20 neu £30 ym Mlwyddyn Academaidd 2010/2011 a’ch bod yn parhau mewn addysg ac yn bodloni rheolau’r cynllun, byddwch chi’n parhau i gael eich Lwfans o fis Medi 2011. Mae hwn yn cael ei alw’n “amddiffyniad trosiannol”.

Er mwyn cael eich amddiffyn yn drosiannol, a pharhau i gael eich Lwfans Cynhaliaeth Addysg, mae’n rhaid eich bod wedi bodloni’r rheolau canlynol yn BA2010/2011:

  • Cafodd eich cais y llynedd ei gymeradwyo;
  • Gwnaethoch chi lofnodi eich cytundebau dysgu y llynedd;
  • Cawsoch chi o leiaf un taliad Lwfans Cynhaliaeth Addysg y llynedd;
  • Nid ydych chi wedi cael eich gwrthod oherwydd ichi fethu ymateb i’n proses wirio sampl;
  • Rydych chi’n dal yn gymwys yn bersonol;
  • Oed – 16, 17 neu 18 ar 31 Awst 2011;
  • Mae eich incwm cartref yn llai na £32,400 o hyd;
  • Nid ydych wedi cael gwerth 3 blynedd o LCA o’r blaen;
  • Rydych chi’n dal yn mynychu cwrs dilys ac yn astudio o leiaf 12 awr yr wythnos.

Am ragor o wybodaeth am newidiadau pwysig i'r 'Lwfans Cynhaliaeth Addysg', ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.