Skip to content

Y Bartneriaeth gyda Estyn

Dolenni perthnasol

Ar y dudalen hon gallwch weld Llythyron Cylch Gwaith Estyn a'n hymatebion ni i Adroddiadau Cylch Gwaith Estyn.
Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth ag Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Ein nod yw cydweithio i sicrhau bod pob dysgwr ôl-16 yng Nghymru yn gallu cyrchu addysg a hyfforddiant o’r ansawdd a safon uchaf posibl.

Byddwn yn parhau i weithio gydag Estyn i ddatblygu dull mwy cydlynol o asesu a monitro ansawdd a gwella safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru.  

Rydym yn gweithio i gysoni'r fframwaith arolygu cyffredin newydd a ddefnyddir gan Estyn o 2010 ymlaen â'r Fframwaith Ansawdd ac Effeithiolrwydd.

Yn arbennig, byddwn yn gweithio tuag at gytuno ar ddangosyddion perfformiad craidd cyffredin a rhannu setiau data mewn perthynas â'r canlynol:

  • mesurau canlyniadau dysgwyr;
  • arolygon o weithgarwch ymgysylltu â chyflogwyr;
  • arolygon o weithgarwch ymgysylltu â'r gymuned;
  • arolygon boddhad cwsmeriaid.

Byddwn hefyd yn cytuno ar ddulliau cydategol o ddefnyddio:

  • adolygiadau gan gymheiriaid;
  • ymyrraeth, cymorth a chamau gweithredu priodol ar gyfer darparwyr gwannach.

Caiff y fframwaith arolygu cyffredin newydd ei lunio i gynnwys set ddefnyddiol o ddangosyddion ansawdd i'w defnyddio ar gyfer darparwyr ôl-16 wrth gynnal hunanasesiadau yn ogystal â ffurfio'r sail ar gyfer gwaith arolygu.

Rhagor o wybodaeth ar Addroddiadau arolygu Estyn ar sefydliadau AB (cyn Ebrill 2001) (dolen allanol)

Ewch i wefan Estyn i gael rhagor o wybodaeth.