Skip to content

Canlyniadau dysgwyr

Dolenni perthnasol

Ffigurau ar ganlyniadau dysgwyr a chyfraddau llwyddiant gweithgareddau dysgu.
Gwybodaeth ystadegol am addysg uwch a phellach a dysgu gydol oes yng nghymru.
Ffigurau ar ganlyniadau dysgwyr a chyfraddau llwyddiant gweithgareddau dysgu.
Ffigurau ar ganlyniadau dysgwyr a chyfraddau llwyddiant gweithgareddau dysgu.
Ffigurau ar ganlyniadau dysgwyr a chyfraddau llwyddiant gweithgareddau dysgu.
Mae’r ystadegau ar ganlyniadau dysgwyr mewn sefydliadau Addysg Bellach a darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith yn cynnwys data ar gyfer Cymru
Mae'r datganiad yn rhoi gwybodaeth am ganlyniadau dysgwyr mewn sefydliadau addysg bellach (AB) ac wrth ddysgu yn y gwaith (DYG) yng Nghymru
Mae canlyniadau dysgwyr wedi’u nodi fel bod yn llwyddiannus o ran cwblhau a chyflawni gweithgareddau a rhaglenni dysgu.

Yn ystod y misoedd diwethaf yr ydym wedi bod yn gweithio â Chyfarwyddiaeth Ystadegau Llywodraeth y Cynulliad i ddiffinio set o fesurau newydd ar gyfer deilliannau dysgwyr, gan ddefnyddio 2006/07 fel y flwyddyn sylfaen. Mae’r holl fesurau’n seiliedig ar ganrannau, ac maent yn disodli’r mesurau dysgu seiliedig ar waith a oedd wedi’u seilio ar ddeilliannau y 100 o ymadawyr sydd wedi cael eu defnyddio yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Maent yn cael eu defnyddio gan Estyn fel rhan o'r dystiolaeth sy’n sail i arolygon, a gennym ni i fonitro perfformiad darparwyr.

Mae cymaryddion cenedlaethol ar gyfer addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith yn cael eu cyhoeddi’n flynyddol, bob mis Mai. Mae darparwyr hefyd yn derbyn adroddiadau data unigol i’w cynorthwyo i gysoni eu gwybodaeth reoli eu hunain gyda’r data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Mae’r Cymaryddion Cenedlaethol o 2006/07 ymlaen ar gael ar y wefan ystadegau ôl-16 oed, drwy ddilyn y ddolen isod.

Yr ydym wedi sefydlu grwpiau llywio gyda chynrychiolwyr addysg bellach a darparwyr dysgu seiliedig ar waith, i gynghori ar ddatblygiad y mesurau newydd.

Mae meincnodi’n ategu’r diwylliant o gydweithredu a gwelliant parhaus i feithrin gallu ac i wneud y defnydd gorau o adnoddau. Yr ydym wedi datblygu pecyn hunan asesu ar y we mewn cydweithrediad â Tribal Consulting, ac mae wedi ei gyflwyno ledled Cymru ers Medi 2007 i alluogi darparwyr i feincnodi’u hunain yn erbyn darparwyr eraill.