Skip to content

Adroddiad Canlyniadau Dysgwyr (ACD)

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Un o amcanion y Fframwaith Ansawdd ac Effeithiolrwydd yw datblygu cyfres syml o ddangosyddion perfformiad craidd.

Gall y dangosyddion hyn hysbysu systemau ansawdd y darparwyr eu hunain, yn ogystal â sicrhau ansawdd ar gyfer Yr Adran Addysg a Sgiliau (AdAS) ac arolygu gan Estyn.

Fel rhan o'r Fframwaith Ansawdd ac Effeithiolrwydd, mae'r Adran Addysg a Sgiliau wedi datblygu adroddiad safonol sy'n cyfuno'r mesurau hyn mewn adroddiad 'pennawd'. Mae’r adroddiad yn dangos perfformiad cyffredinol pob darparydd.  Mae’r holl ystadegau yn deillio o’r Cofnod Dysgu Gydol Oes ac fe'u seilir ar giplun blynyddol o ddata’r Cofnod Dysgu Gydol Oes.  

Sefydliadau addysg bellach

O 2011 ymlaen, byddwn yn cyhoeddi'r adroddiadau hyn yn flynyddol er mwyn rhoi gwybodaeth am ddeilliannau sefydliadau addysg bellach a ariennir gan Lywodraeth Cymru.  Yn yr adroddiadau, dangosir gwybodaeth am y cyfraddau y llwyddir i'w cyflawni ar ffurf codau lliw, h.y. canran yr holl gymwysterau y mae'r dysgwyr wedi llwyddo i'w cyflawni dros y tair blynedd diwethaf.

http://www.arsyllfadysgu.com/loreports/

Darparwyr dysgu seiliedig ar waith

Rydym wedi cyhoeddi papur yn gosod trothwyon perfformiad dangosol i ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith ar gyfer 2010-2013.
Mae safonau gofynnol newydd wedi’u gosod ar gyfer rhaglenni Prentisiaethau a Chyflogaeth ar gyfer contractau sy’n dechrau ar 1 Awst 2011. Mae’r ddogfen hon yn cynnwys trothwyon dros dro i sicrhau gwelliannau graddol bob blwyddyn wrth inni nesáu at gyrraedd y safonau hyn.  Byddwn yn adolygu’r safonau hyn yn sgil perfformiad y sector ac mae’n bosibl y byddwn yn eu diwygio yn y dyfodol.

Byddwn yn cyhoeddi’r adroddiadau hyn yn rheolaidd i roi gwybodaeth am ddeilliannau dysgu seiliedig ar waith a ariennir gan Lywodraeth Cymru.  Yn yr adroddiadau, dangosir gwybodaeth am y cyfraddau y llwyddir i'w cyflawni ar ffurf codau lliw, hynny yw, canran yr holl gymwysterau y mae'r dysgwyr wedi llwyddo i'w cyflawni, a hynt dysgwyr o ran cael gwaith neu addysg bellach dros y tair blynedd diwethaf.

http://www.arsyllfadysgu.com/wbladd/

Dysgu Oedolion yn y Gymuned

Mae mesurau i fesur Deilliannau Dysgwyr ar gyfer Dysgu Oedolion yn y Gymuned wrthi’n cael eu datblygu gan ddefnyddio 2009/10 fel y flwyddyn sylfaen. Mae NIACE Dysgu Cymru wedi llunio adroddiad cychwynnol ar fesur perfformiad ar gyfer Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn seiliedig ar ymgynghori â darparwyr. Gellir lawrlwytho’r adroddiad isod.