Skip to content

Gwerth ychwanegol

Mae gwerth ychwanegol yn ffordd o fesur y cynnydd a wnaed gan ddysgwyr yn ychwanegol at yr hyn y disgwylid iddynt ei gyflawni ‘fel arfer’ neu'r hyn yr amcangyfrifwyd y byddent yn ei gyflawni gan ystyried cyrhaeddiad blaenorol a ffactorau cyd-destunol.

Yr ydym yn derbyn bod peth dysgu’n arwain at fuddiannau ychwanegol na ellir o reidrwydd eu mesur drwy gymwysterau ffurfiol. Yr ydym wedi gwneud rhywfaint o waith cychwynnol i ddatblygu systemau sy’n canolbwyntio ar ddysgwyr i gydnabod a chofnodi deilliannau dysgu o raglenni heb eu hachredu.

  • Disgwylir i bob darparwr ddefnyddio’r canllawiau canlynol wrth gofnodi cyflawniad yn y rhaglenni hyn:
    nodi ar y dechrau amcanion dysgu a deilliannau a fwriedir, un ai ar gyfer dysgwyr unigol neu grwpiau. Dylid gwneud hyn fel rhan o asesiad cychwynnol, cyngor a chyfarwyddyd i ganfod anghenion cymorth dysgwyr a’u dyheadau;
  • diffiniad o oriau dysgu a lefel credyd y dysgu, i helpu i ddynodi gwerth credyd i’r rhaglen;
  • monitro cynnydd y dysgwyr yn ystod y rhaglen, bydd hyn yn cael ei wneud gan athrawon, tiwtoriaid neu fentoriaid;
  • cynnwys gwybodaeth sy’n seiliedig ar brofiad y dysgwr ei hun o ddysgu a chynnydd; ac
  • asesiad ar ddiwedd y rhaglen i weld a yw’r deilliannau a fwriadwyd wedi’u cyflawni, a chanfod cyfleoedd i’r dysgwr ddatblygu ymhellach yn y dyfodol.

Yr ydym wedi cefnogi dau brosiect i gynhyrchu adnoddau y gall darparwyr eu defnyddio i gofnodi a mesur deilliannau dysgu heb eu hachredu. Mae’r ddau becyn yn galluogi darparwyr i weithio â dysgwyr i gofnodi a gwerthuso deilliannau dysgu heb ei achredu’n ffurfiol, gan hybu cydnabyddiaeth o gyflawniad y dysgwr a, thrwy’r broses hunan asesu, bennu targedau i wella yn ogystal â dangos perfformiad (ychwanegu gwerth a phellter a deithiwyd) i gyrff arolygu a chyllido.

Yr ydym yn gweithio â Chanolfan Cymorth Rhanbarthol y Cydbwyllgor Systemau Gwybodaeth (JISC) i adeiladu ar yr egwyddorion presennol i ddatblygu pecyn gwaith ar y we, y gall darparwyr ei ddefnyddio i olrhain a mesur cynnydd dysgwyr a’r pellter a deithiwyd.  

Fel rhan o ddatblygiad y Fframwaith Ansawdd ac Effeithiolrwydd , byddwn yn edrych sut y gellir ymgorffori’r modelau hyn ymhellach drwy hunan asesiadau’r darparwyr.