Skip to content

Trawsnewid y Ddarpariaeth Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Disgwylir i’r gwaith o weithredu’r polisi hwn arwain at fanteision sylweddol ar gyfer dysgwyr gan ganolbwyntio’n gadarn ar wella lefelau sgiliau ar gyfer pob person ifanc ac oedolyn.
Dyma gwybodaeth ar gyfer y polisi 'Trawsnewid – Y Siwrnai'.
Mae’r canllawiau hyn yn pennu cynnwys a gofynion y Rheoliadau Trefniadau Cydlafurio (Ysgolion a Gynhelir a Chyrff Addysg Bellach) (Cymru) 2008 a ddaeth i rym ar 31 Rhagfyr 2008.
Bwriad y ddogfen hon yw cynorthwyo â'r gwaith o ddatblygu trefniadau effeithiol ar gyfer Consortia Ysgolion/Sefydliadau Addysg Bellach.

Mae’r polisi Trawsnewid yn ei gwneud hi’n ofynnol bod yr holl ddarparwyr dysgu yn cefnogi’r polisi trwy gynllunio newid a’i roi ar waith er mwyn sicrhau bod darparwyr dysgu yn gwneud gwelliannau sylweddol i’r ddarpariaeth ddysgu y maent yn ei chynnig.

Lansiwyd y polisi a’r fframwaith ar gyfer ad-drefnu addysg ôl-16, Trawsnewid y Ddarpariaeth Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, ym mis Medi 2008.  

Mae’r polisi’n herio pob ysgol, coleg, prifysgol a darparwr hyfforddiant seiliedig ar waith yng Nghymru i roi o’r neilltu drefniadau traddodiadol, cul, sefydliadol a threfnu darpariaeth ar y cyd ar draws ardal ddaearyddol.  Drwy weithio fel hyn, byddai modd cael gwared ar unrhyw raglenni dysgu sy’n cael eu dyblygu a byddai modd defnyddio’r arian ar gyfer dysgu, addysgu a chynorthwyo dysgwyr.  Byddai hyn yn golygu y byddai mwy o gyfleoedd dysgu ar gael i bobl ifanc ac oedolion a byddai’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt yn well hefyd.

Yng Nghymru, dengys  tystiolaeth nad oes model cydweithio neu fodel ad-drefnu penodol y gellir ei ddefnyddio i weddnewid darpariaeth addysg a hyfforddiant ôl-16.   O ganlyniad, nid yw’r polisi’n rhoi cyfarwyddyd ynghylch sut i fynd ati i wneud newidiadau.  Mae’n galw ar ddarparwyr addysg ôl-16 i ffurfio partneriaethau ar draws ardaloedd daearyddol neu sectorau sgiliau ac ar sail y dystiolaeth sydd ar gael o’r angen am ddarpariaeth, datblygu atebion lleol/rhanbarthol.

Ym mis Tachwedd 2009, cyhoeddwyd Trawsnewid, Y Siwrnai.  Mae’r ddogfen yn adrodd yn ôl ar y cynnydd a wnaed o ran newid trawsnewidiol ôl-16 flwyddyn yn ddiweddarach ers lansio’r polisi Trawsnewid ac mae’r ddogfen yn rhoi manylion ynghylch camau ‘y siwrnai’/’the journey’ y mae rhanddeiliaid wedi eu cymryd i weithredu cyfnod ôl-16 y Polisi Trawsnewid.  Mae hefyd yn amlygu'r bwriad i ehangu’r Polisi Trawsnewid i gynnwys pob cam o addysg a hyfforddiant.

Mae APADGOS yn parhau i weithio gyda’r Partneriaethau Dysgu ar ddatblygu cynlluniau gweithredu effeithiol a’u rhoi ar waith er mwyn newid.  Mae’r cynlluniau wedi’u rhannu’n bedwar categori:  Cydweithio rhwng Addysg Bellach/Ysgolion Uwchradd a  Gynhelir; Uno Pob Darpariaeth Ddysgu Ôl-16; Uno Sefydliadau Addysg Bellach ac Ad-drefnu Ardaloedd Awdurdodau Lleol.

Rydym yn disgwyl y bydd rhoi’r polisi ar waith yn arwain at fanteision sylweddol i ddysgwyr gan ganolbwyntio ar wella lefel sgiliau pobl ifanc ac oedolion.